2 Corinthians 11:12
Eithr yr hyn yr wyf yn ei wneuthur, a wnaf hefyd; fel y torrwyf ymaith achlysur oddi wrth y rhai sydd yn ewyll-ysio cael achlysur; fel yn yr hyn y maent yn ymffrostio, y ceir hwynt megis ninnau hefyd.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
11Paham? ai am nad wyf yn eich cam chwi? Duw a’i gw yr.
13Canys y cyfryw gau apostolion sydd weithwyr twyllodrus, wedi ymrithio yn apostolion i Grist.
Cross References
1 Corinthians 5:6Nid da eich gorfoledd chwi. Oni wyddoch chwi fod ychydig lefain yn lefeinio’r holl does?
2 Corinthians 1:17Gan hynny, pan oeddwn yn bwriadu hyn, a arferais i ysgafnder? neu y pethau yr wyf yn eu bwriadu, ai yn ôl y cnawd yr wyf yn eu bwriadu, fel y bydd¬ai gyda mi, ie, ie, a nage, nage?
2 Corinthians 10:17Eithr yr hwn sydd yn ymffrostio, ymffrostied yn yr Arglwydd.
2 Corinthians 11:18Gan fod llawer yn ymffrostio yn ôl y cnawd, minnau a ymffrostiaf hefyd.
Galatians 6:13Canys nid yw’r rhai a enwaedir, eu hunain yn cadw’r ddeddf; ond ewyllysio y maent enwaedu arnoch chwi, fel y gorfoleddont yn eich cnawd chwi.
1 Timothy 5:14Yr wyf yn ewyllysio gan hynny i’r rhai ieuainc briodi, planta, gwarchod y tŷ, heb roi dim achlysur i’r gwrthwynebwr i ddifenwi.