2 Corinthians 11:22
Ai Hebreaid ydynt hwy? felly finnau: ai Israeliaid ydynt hwy? felly finnau: ai had Abraham ydynt hwy? felly finnau.
Beibl (1620)
In The King James Version
Are they Hebrews? so am I. Are they Israelites? so am I. Are they the seed of Abraham? so am I.
In Context
Cross References
Genesis 17:8A mi a roddaf i ti, ac i’th had ar dy ol di, wlad dy ymdaith, sef holl wlad Canaan, yn etifeddiaeth dragywyddol; a mi a fyddaf yn Dduw iddynt.
Exodus 5:3A dywedasant hwythau, Duw yr Hebreaid a gyfarfu â ni: gâd i ni fyned, attolwg, daith tridiau yn yr anialwch, ac aberthu i’r Arglwydd ein Duw; rhag iddo ein rhuthro â haint, neu â chleddyf.
Exodus 9:1ac er hynny efe a galedir. Yna y dywedodd yr Arglwydd wrth Moses, Dos i mewn at Pharaoh, a llefara wrtho ef, Fel hyn y dywed Arglwydd Dduw yr Hebreaid; Gollwng ymaith fy mhobl, fel y’m gwasanaethont.
Exodus 10:3A daeth Moses ac Aaron i mewn at Pharaoh, a dywedasant wrtho, Fel hyn y dywedodd Arglwydd Dduw yr Hebreaid; Pa hyd y gwrthodi ymostwng ger fy mron? gollwng ymaith fy mhobl, fel y’m gwasanaethont.
Matthew 3:9Ac na feddyliwch ddywedyd ynoch eich hunain, Y mae gennym ni Abraham yn dad i ni: canys yr ydwyf yn dywedyd i chwi, y dichon Duw, ie, o'r meini hyn, gyfodi plant i Abraham.
Acts 22:3Gŵr wyf fi yn wir o Iddew, yr hwn a aned yn Nharsus yn Cilicia, ac wedi fy meithrin yn y ddinas hon wrth draed Gamaliel, ac wedi fy athrawiaethu yn ôl manylaf gyfraith y tadau, yn dwyn sêl i Dduw, fel yr ydych chwithau oll heddiw.