2 Corinthians 2:11
Fel na’n siomer gan Satan: canys nid ydym heb wybod ei ddichellion ef.
Beibl (1620)
In The King James Version
Lest Satan should get an advantage of us: for we are not ignorant of his devices.
In Context
Cross References
Job 1:11Eithr estyn yn awr dy law, a chyffwrdd â’r hyn oll sydd ganddo, ac efe a’th felltithia o flaen dy wyneb.
Job 2:5Eithr estyn yn awr dy law, a chyffwrdd â’i esgyrn ef ac â’i gnawd, ac efe a’th felltithia di o flaen dy wyneb.
Zechariah 3:1Ac efe a ddangosodd i mi Josua yr archoffeiriad yn sefyll gerbron angel yr yr ARGLWYDD, a Satan yn sefyll ar ei ddeheulaw ef i'w wrthwynebu ef.
Luke 22:31A’r Arglwydd a ddywedodd, Si¬mon, Simon, wele, Satan a’ch ceisiodd chwi, i’ch nithio fêl gwenith:
Acts 1:25I dderbyn rhan o’r weinidogaeth hon, a’r apostoliaeth, o’r hon y cyfeiliornodd Jwdas, i fyned i’w le ei hun.
2 Corinthians 4:4Yn y rhai y dallodd duw’r byd hwn feddyliau y rhai di-gred, fel na thywynnai iddynt lewyrch efengyl gogoniant Crist, yr hwn yw delw Duw.