2 Corinthians 3:7
Ac os bu gweinidogaeth angau, mewn llythrennau wedi eu hargraffu ar gerrig, mewn gogoniant, fel na allai plant yr Israel edrych yn graff ar wyneb Moses, gan ogoniant ei wynepryd, yr hwn ogoniant a ddilewyd;
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
8Pa fodd yn hytrach na bydd gwein¬idogaeth yr Ysbryd mewn gogoniant?
Cross References
Genesis 3:21A’r Arglwydd Dduw a wnaeth i Adda ac i’w wraig beisiau crwyn, ac a’u gwisgodd am danynt hwy.
Exodus 31:18¶ Ac efe a roddodd i Moses, wedi iddo orphen llefaru wrtho ym mynydd Sinai, ddwy lech y dystiolaeth; sef llechau o gerrig, wedi eu hysgrifenu â bys Duw.
Exodus 32:19¶ A bu, wedi dyfod o hono yn agos i’r gwersyll, iddo weled y llo a’r dawnsiau: ac ennynodd digofaint Moses: ac efe a daflodd y llechau o’i ddwylo ac a’u torrodd hwynt îs law y mynydd.
Exodus 34:28Ac efe a fu yno gyd â’r Arglwydd ddeugain niwrnod a deugain nos, ni fwyttaodd fara, ac nid yfodd ddwfr: ac efe a ysgrifenodd ar y llechau eiriau’r cyfammod, sef y deg gair.
Deuteronomy 4:13Ac efe a fynegodd i chwi ei gyfammod a orchymynodd efe i chwi i’w wneuthur, sef y Dengair; ac a’u hysgrifenodd hwynt ar ddwy lech faen.
Deuteronomy 9:9Pan euthum i fynu i’r mynydd i gymmeryd y llechau meini, sef llechau y cyfammod, yr hwn a wnaeth yr Arglwydd â chwi; yna yr arhoais yn y mynydd ddeugain niwrnod a deugain nos: bara ni fwytteais, a dwfr nid yfais.