2 Corinthians 6:16
A pha gydfod sydd rhwng teflil Duw ac eilunod? canys teml y Duw byw ydych chwi; fel y dywedodd Duw, Mi a breswyliaf ynddynt, ac a rodiaf yn eu mysg, ac a fyddaf yn Dduw iddynt hwy, a hwy a fyddant yn bobl i mi.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
15A pha gysondeb sydd rhwng Crist a;- Belial? neu pa ran sydd i gredadun gydag anghredadun?
Cross References
Exodus 20:3Na fydded i ti dduwiau eraill ger fy mron i.
Exodus 29:45¶ A mi a breswyliaf ym mysg meibion Israel, ac a fyddaf yn Dduw iddynt.
Leviticus 26:12A mi a rodiaf yn eich plith; a byddaf yn Dduw i chwi, a chwithau a fyddwch yn bobl i mi.
Deuteronomy 5:7Na fydded i ti dduwiau eraill ger fy mron i.
Joshua 24:14¶ Yn awr gan hynny ofnwch yr Arglwydd, a gwasanaethwch ef mewn perffeithrwydd a gwirionedd, a bwriwch ymaith y duwiau a wasanaethodd eich tadau o’r tu hwnt i’r afon, ac yn yr Aipht; a gwasanaethwch chwi yr Arglwydd.
1 Kings 18:21Ac Eleias a ddaeth at yr holl bobl, ac a ddywedodd. Pa hyd yr ydych chwi yn cloffi rhwng dau feddwl? os yr ARGLWYDD sydd DDUW, ewch ar ei ôl ef; ond os Baal, ewch ar ei ôl yntau. A’r bobl nid atebasant iddo air. º