2 Corinthians 7:15
Ac y mae ei ymysgaroedd ef yn helaethach tuag atoch, wrth gofio ohono eich ufudd-dod chwi oll, pa fodd trwy ofn a dychryn y derbyniasoch ef.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
16Am hynny llawen wyf, am fod i mi hyder arnoch ym mhob dim.
Cross References
Genesis 43:30A Joseph a frysiodd, (oblegid cynnesasai ei ymysgaroedd ef tu ag at ei frawd,) ac a geisiodd le i wylo; ac a aeth i mewn i’r ystafell, ac a wylodd yno.
Ezra 9:4Yna yr ymgasglodd ataf fi bob un a’r a ofnodd eiriau Duw Israel, am gamwedd y rhai a gaethgludasid; a myfi a eisteddais yn syn hyd yr aberth prynhawnol.
Job 21:6Minnau pan gofiwyf, a ofnaf; a dychryn a ymeifl yn fy nghnawd.
Isaiah 66:2Canys y pethau hyn oll a wnaeth fy llaw, a thrwof fi y mae hyn oll, medd yr ARGLWYDD: ond ar hwn yr edrychaf, sef ar y truan a’r cystuddiedig o ysbryd, ac sydd yn crynu wrth fy ngair. º
Acts 16:29Ac wedi galw am olau, efe a ruthrodd i mewn, ac yn ddychrynedig efe a syrthiodd i lawr gerbron Paul a Silas,