2 Corinthians 8:4
Gan ddeisyfu arnom trwy lawer o ymbil, ar dderbyn ohonom ni y rhodd, a chymdeithas gweinidogaeth y saint.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Cross References
Genesis 33:10A Jacob a ddywedodd, Nag ê; attolwg, os cefais yn awr ffafr yn dy olwg, cymmer fy anrheg o’m llaw i: canys am hynny y gwelais dy wyneb, fel pe gwelswn wyneb Duw, a thi yn foddlawn i mi.
Matthew 10:42A phwy bynnag a roddo i’w yfed i un o’r rhai bychain hyn ffiolaid o ddwfr oer yn unig yn enw disgybl, yn wir meddaf i chwi, Ni chyll efe ei wobr.
Matthew 25:40A’r Brenin a etyb, ac a ddywed wrthynt, Yn wir meddaf i chwi, Yn gymaint â’i wneuthur ohonoch i un o’r rhai hyn fy mrodyr lleiaf, i mi y gwnaethoch.
Mark 14:7Canys bob amser y cewch y tlodion gyda chwi; a phan fynnoch y gellwch wneuthur da iddynt hwy: ond myfi ni chewch bob amser.
Acts 6:1Ac yn y dyddiau hynny, a’r disgyblion yn amlhau, bu grwgnach gan y Groegiaid yn erbyn yr Hebreaid, am ddirmygu eu gwragedd gweddwon hwy yn y weinidogaeth feunyddiol.
Acts 11:29Yna y disgyblion, bob un yn ôl ei allu, a fwriadasant anfon cymorth i’r brodyr oedd yn preswylio yn Jwdea: