2 Corinthians 8:9
Canys chwi a adwaenoch ras em Harglwydd Iesu Grist, iddo ef, ac yntau’m gyfoethog, fyned er eich mwyn chwi yn dlawd, fel y cyfoethogid chwi trwy ei diodi ef.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Cross References
Isaiah 62:1ER mwyn Seion ni thawaf, ac er mwyn Jerwsalem ni ostegaf, hyd onid elo ei chyfiawnder hi allan fel disgleirdeb, a’i hiachawdwriaeth hi fel lamp yn llosgi. º
Matthew 8:20A’r Iesu a ddywedodd wrtho, Y mae ffeuau gan y llwynogod, a chan ehediaid y nefoedd nythod; ond gan Fab y dyn nid oes le i roddi ei ben i lawr.
Matthew 20:28Megis na ddaeth Mab y dyn i’w wasanaethu, ond i wasanaethu, ac i roddi ei einioes yn bridwerth dros lawer.
Luke 2:7A hi a esgorodd ar ei mab cyntaf-anedig, ac a’i rhwymodd ef mewn cad-achau, ac a’i dododd ef yn y preseb, am nad oedd iddynt le yn y llety.
Luke 9:58A’r Iesu a ddywedodd wrtho, Y mae gan y llwynogod ffeuau, a chan adar yr awyr nythod; ond gan Fab y dyn nid oes lle y rhoddo ei ben i lawr.