2 Corinthians 9:7
Pob un megis y mae yn rhagarfaethu yn ei galon, felly rhodded; nid yn athrist, neu trwy gymell: canys rhoddwr llawen y mae Duw yn ei garu.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Cross References
Exodus 25:2Dywed wrth feibion Israel, am ddwyn o honynt i mi offrwm: gan bob gwr ewyllysgar ei galon y cymmerwch fy offrwm.
Deuteronomy 15:7¶ Os bydd yn dy fysg di un o’th frodyr yn dlawd o fewn un o’th byrth, yn dy dir yr hwn y mae yr Arglwydd dy Dduw yn ei roddi i ti, na chaleda dy galon, ac na chau dy law oddi wrth dy frawd tlawd:
1 Chronicles 29:17Gwn hefyd, O fy Nuw, mai ti sydd yn profi y galon, ac yn yrnfodloni mewa cyfiawnder. Myfi yn uniondeb fy nghalon, o wirfodd a offrymais hyn oll; ac yn awr y gwelais dy bobl a gafwyd yma yn offryma yn ewyllysgar i ti, a hynny mewn llawenydd. º
Proverbs 22:9Yr hael ei lygad a fendithir: canys efe a rydd o’i fara i’r tlawd.
Isaiah 32:5Ni elwir mwy y coegddyn yn fonheddig, ac ni ddywedir am y cybydd, Hael yw,. º
Acts 20:35Mi a ddangosais i chwi bob peth, mai wrth lafurio felly y mae yn rhaid cynorthwyo’r gweiniaid; a chofio geiriau yr Arglwydd Iesu, ddywedyd ohono ef, mai Dedwydd yw rhoddi yn hytrach na derbyn.