Llyfr Cyntaf y Cronicl 1:3
Ac angel yr ARGLWYDD a ddywedodd wrth Eleias y Thesbiad, Cyfod, dos i fyny i gyfarfod â chenhadau brenin Samaria, a dywed wrthynt, Ai am nad oedd Duw yn Israel, yr ydych chwi yn myned i ymofyn a Baal-sebub duw Ecron?
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Read all of Llyfr Cyntaf y Cronicl 1
Cross References
1 Kings 11:33Oblegid iddynt fy ngwrthod i, ac ymgrymu i Astoreth duwies y Sidoniaid, ac i Cemos duw y Moabiaid, ac i Milcom duw meibion Ammon, ac na rodiasant yn fy ffyrdd i, i wneuthur yr hyn oedd uniawn yn fy ngolwg i, ac i wneuthur fy neddfau a’m barnedigaethau, fel Dafydd ei dad. º
1 Kings 18:1A ar ôl dyddiau lawer daeth gair yr ARGLWYDD at Eleias, yn y drydedd flwyddyn, gan ddywedyd, DOS, ymddangos i Ahab; a mi a roddaf law ar, wyneb y ddaear. º
1 Kings 19:5Ac fel yr oedd efe yn gorwedd ac yn cysgu dan ferywen, wele, angel a gyffyrddodd ag ef, ac a ddywedodd wrtho, Cyfod, bwyta. º
1 Kings 21:17A gair yr ARGLWYDD a ddaeth at Eleias y Thesbiad, gan ddywedyd, º
2 Kings 1:6A hwy a ddywedasant wrtho, Gŵr a ddaeth i fyny i’n cyfarfod ni, ac a ddy¬wedodd wrthym ni, Ewch, dychwelwch at y brenin a’ch anfonodd, a lleferwch wrtho, Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD; Ai am nad oes Duw yn Israel, yr ydwyt ti yn anfon i ymofyn â Baal-sebub duw Ecron? oherwydd hynny ni ddisgynni o’r gwely y dringaist arno, eithr gan farw y byddi farw.
2 Kings 1:15Ac angel yr ARGLWYDD a lefarodd wrth Eleias, Dos i waered gydag ef, nac ofna ef. Ac efe a gyfododd, ac a aeth i waered gydag ef at y brenin.