Llyfr Cyntaf y Cronicl 10:11
Felly Jehu a drawodd holl weddillion tŷ Ahab yn Jesreel, a’i holl benaethiaid ef, a’i gyfneseifiaid ef, a’i offeiriaid, ‘fel na adawyd un yng ngweddill. º
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Read all of Llyfr Cyntaf y Cronicl 10
Cross References
Joshua 11:8A’r Arglwydd a’u rhoddodd hwynt yn llaw Israel; a hwy a’u tarawsant hwynt, ac a’u herlidiasant hyd Sidon fawr, ac hyd Misrephoth-maim, ac hyd glyn Mispeh o du y dwyrain; a hwy a’u tarawsant hwynt, fel na adawodd efe o honynt un y’ngweddill.
1 Kings 15:29A phan deyrnasodd, efe a drawodd holl dy Jeroboam; ni adawodd un per* chen anadl i Jeroboam, nes ei ddifetha ef, yn ôl gair yr ARGLWYDD, yr hwn a lefarasai efe trwy law ei was Ahia y Siloniad: º
1 Kings 18:19Yn awr gan hynny anfon, a chasgl ataf holl Israel i fynydd Carmel, a phroffwydi Baal, pedwar cant a deg a deugain, a phroffwydi y llwyni, pedwar cant, y rhai sydd yn bwyta ar fwrdd Jezebel. º
1 Kings 21:22A mi a wnaf dy dŷ di fel tŷ Jeroboam mab Nebat, ac fel tŷ Baasa mab Ahia, oherwydd y dieter trwy yr hwn y’m digiaist, ac y gwnaethost i Israel bechu. º
1 Kings 22:6Yna brenin Israel a gasglodd y proffwydi, ynghylch pedwar cant o wŷr, ac a ddywedodd wrthynt, A af fi yn erbyn RamothGilead i ryfel, neu a beidiaf fi? Dywedasant hwythau, DOS i fyny; canys yr ARGLWYDD a’i dyry hi yn llaw y brenin. º
2 Kings 9:9A mi a wnaf dy Ahab fel tŷ Jeroboam mab Nebat, ac fel tŷ Baasa mab Ahia. º