Llyfr Cyntaf y Cronicl 10:5
Am hynny yr anfonodd yr hwn oedd ar y tŷ, a’r hwn oedd ar y ddinas, a’r henuriaid, a’r tadmaethod, at Jehu, gan ‘ddywedyd, Dy weision di ydym ni, a’r byn oll a ddywedych di wrthym a wnawn ni; ni wnawn ni neb yn frenin: gwna yr hyn a fyddo da yn dy olwg. º
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Read all of Llyfr Cyntaf y Cronicl 10
Cross References
Joshua 9:11Am hynny ein henuriaid ni, a holl breswylwyr ein gwlad, a lefarasant wrthym ni, gan ddywedyd, Cymmerwch luniaeth gyd â chwi i’r daith, ac ewch i’w cyfarfod hwynt; a dywedwch wrthynt, Eich gweision ydym: yn awr gan hynny gwnewch gyfammod â ni.
Joshua 9:25Ac yn awr, wele ni yn dy law di: fel y byddo da ac uniawn yn dy olwg wneuthur i ni, gwna.
1 Kings 20:32Yna y gwregysasant sachliain am ea llwynau, a rhaffau am eu pennau, ac a ddaethant at frenin Israel, ac a ddywedasant, Benhadad dy was a ddywed, Atolwg, gad i mi fyw. Dywedodd yntau, A ydyw efe eto yn fyw? fy mrawd yw efe. º
Jeremiah 27:7A’r holl genhedloedd a’i gwnsanaethant ef, a’i fab, a mab ei fab, nes dyfod gwir amser ei wlad ef, yna cenhedloedd lawer a brenhinoedd mawrion a fynnant wasanaeth ganddo ef. º
John 12:26Os gwasanaetha neb fi, dilyned fi: a lle yr wyf fi, yno y bydd fy ngweinidog hefyd: ac os gwasanaetha neb fi y Tad a’i hanrhydedda ef.