Llyfr Cyntaf y Cronicl 11:12
Ac efe a ddug allan fab y brenin, ac a roddodd y goron arno ef, a’r dystiolaeth: a hwy a’i hurddasant ef yn frenin, ac a’i heneiniasant ef; curasant hefyd eu dwylo, a dywedasant, Byw fyddo’r brenin. º
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
13A phan glybu Athaleia drwst y bobl yn rhedeg, hi a ddaeth i mewn at y bobl i dŷ yr ARGLWYDD. º
Read all of Llyfr Cyntaf y Cronicl 11
Cross References
Exodus 31:18¶ Ac efe a roddodd i Moses, wedi iddo orphen llefaru wrtho ym mynydd Sinai, ddwy lech y dystiolaeth; sef llechau o gerrig, wedi eu hysgrifenu â bys Duw.
1 Samuel 10:1YNA Samuel a gymerodd ffiolaid o olew, ac a’i tywalltodd ar ei ben ef, ac a’i cusanodd ef; ac a ddywedodd, Onid yr ARGLWYDD a’th eneiniodd di yn flaenor ar ei etifeddiaeth? º
1 Samuel 16:13Yea y cymerth Samuel gorn yr olew, ac a’i heneiniodd ef yng nghanol ei frodyr. A daeth ysbryd yr ARGLWYDD ar Dafydd, o’r dydd hwnnw allan. Yna Samuel a gyfododd, ac a aeth i Rama. º
2 Samuel 2:4A gwŷr Jwda a ddaethant, ac a eneiniasant Dafydd yno yn frenin ar dŷ Jwda. A mynegasant i Dafydd, gan ddy¬wedyd, mai gwŷr Jabes Gilead a gladdasent Saul.
2 Samuel 5:3Felly holl henuriaid Israel a ddaethant at y brenin i Hebron: a’r brenin Dafydd a wnaeth gyfamod â hwynt yn Hebron, ger bron yr ARGLWYDD: a hwy a eneiniasant Dafydd yn frenin ar Israel.
2 Samuel 16:16A phan ddaeth Husai yr Arciad, cyfaill Dafydd, at Absalom, Husai a ddywedodd wrth Absalom, Byw fo’r brenin, byw fyddo’r brenin.