Llyfr Cyntaf y Cronicl 14:13
A Joas brenin Israel a ddaliodd Amaseia brenin Jwda, mab Joas, mab Ahaseia, yn Bethsemes, ac a ddaeth i Jerwsalem, ac a dorrodd i lawr fur Jerw¬salem, o borth Effraim hyd borth y gongi, bedwar can cufydd. º
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
12A Jwda a drawyd o flaen Israel; a hwy a ffoesant bawb i’w pebyll. º
Read all of Llyfr Cyntaf y Cronicl 14
Cross References
2 Kings 25:6Felly hwy a ddaliasant y brenin, ac a’i dygasant ef i fyny at frenin Babilon i Ribia; ac a roddasant farn yn ei erbyn ef. º
2 Chronicles 33:11Am hynny y dug yr ARGLWYDD arnynt hwy dywysogion llu brenin Asyria, a hwy a ddaliasant Manasse mewn drysni, ac a’i rhwymasant ef â dwy gadwyn, ac a’i dygasant ef i Babilon.
2 Chronicles 36:10Ac ymhen y flwyddyn yr anfonodd y brenin Nebuchodonosor, ac a’i dug ef i Pabilon, gyda llestri dymunol tŷ yr AR¬GLWYDD: ac efe a wnaeth Sedeceia ei frawd ef yn frenin ar Jwda a Jerwsalem.
Nehemiah 12:39Ac oddi ar borth Effraim, ac oddi ar yr hen borth, ac oddi ar borth y pysgod, a thŵr Hananeel, a thŵr Mea, hyd borth y defaid, a hwy a safasant ym mhorth yr wyliadwriaeth.
Proverbs 16:18Balchder sydd yn myned o flaen dinistr: ac uchder ysbryd o flaen cwymp.
Isaiah 2:11Uchel drem dyn a iselir, ac uchder dynion a ostyngir; a’r ARGLWYDD yn unig a ddyrchefir yn y dydd hwnnw.