Llyfr Cyntaf y Cronicl 14:24
Ac efe a wnaeth yr hyn oedd ddrwg yng ngolwg yr ARGLWYDD: ni chiliodd efe oddi wrth holl bechodau Jeroboam mab Nebat, yr hwn a wnaeth i Israel bechu. º
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Read all of Llyfr Cyntaf y Cronicl 14
Cross References
Deuteronomy 9:18A syrthiais ger bron yr Arglwydd, fel y waith gyntaf, ddeugain niwrnod a deugain nos; ni fwytteais fara, ac nid yfais ddwfr: o herwydd eich holl bechodau chwi y rhai a bechasech, gan wneuthur drygioni y’ngolwg yr Arglwydd i’w ddigio ef.
1 Kings 14:16Ac efe a ddyry heibio Israel, er mwyn pechodau Jeroboam, yr hwn a bechodd, a’r hwn a wnaeth i Israel bechu. º
2 Kings 3:3Eto efe a lynodd wrth bechodau Jeroboam mab Nebat, yr hwn a wnaeth i Israel bechu: ni chiliodd efe oddi wrthynt hwy.
2 Kings 13:6Eto ni throesant hwy oddi wrth bechodau tŷ Jeroboam, yr hwn a wnaeth i Israel bechu, eithr rhodiasant ynddyn): hwy: a’r llwyn hefyd a safai yn Samaria.) º
2 Kings 21:6Ac efe a dynnodd ei fab trwy dan, ac a arferodd hudoliaeth, a brudiau, ac a fawrhaodd swynyddion, a dewiniaid: efe a wnaeth lawer o ddrwg yng ngolwg yr ARGLWYDD, i’w ddigio ef. º
Amos 7:9Uchelfeydd Isaac hefyd a wneir yn anghyfannedd, a chysegrau Israel a ddifethir; a mi a gyfodaf yn erbyn tŷ Jeroboam â’r cleddyf.