The Bible Software
Llyfr Cyntaf y Cronicl · Beibl (1620)

Llyfr Cyntaf y Cronicl 15

1"YN y seithfed flwyddyn ar hugain i * Jeroboam brenin Israel y teyrnasodd Asareia mab Amaseia brenin Jwda. º

2Mab un flwydd ar bymtheg ydoedd efe pan ddechreuodd deyrnasu, a deuddeng mlynedd a deugain y teyrnasodd efe yn Jerwsalem; ac enw ei fam oedd Jecholeia o Jerwsalem. º

3Ac efe a wnaeth yr hyn oedd uniawn yng ngolwg yr ARGLWYDD, yn ôl yr hyn oll a wnaethai Amaseia ei dad ef: º

4Ond na thynnwyd ymaith yr uchelfeydd: y bobl oedd eto yn aberthu ac yn arogldarthu yn yr uchelfeydd. º

5A’r ARGLWYDD a drawodd y brenin, fel y bu efe wahanglwyfus hyd ddydd ei farwolaeth, ac y trigodd mewn tŷ o’r neilitu: a Jotham mab y brenin oedd ar y tŷ yn barnu pobl y wlad. º

6A’r rhan arall o hanes Asareia, a’r hyn oll a wnaeth efe, onid ydynt hwy yn ysgrifenedig yn llyfr cronici brenhinoedd Jwda? º

7Ac Asareia a hunodd gyda’i dadau, a chladdasant ef gyda’i dadau yn ninas Dafydd; a Jotham ei fab a deyrnasodd yn ei le ef. º

8Yn y drydedd flwyddyn ar bym¬theg ar hugain i Asareia brenin Jwda, y teyrnasodd Sachareia mab Jeroboam ar Israel yn Samaria chwe mis. º

9Ac efe a wnaeth yr hyn oedd ddrwg yng ngolwg yr ARGLWYDD, megis y gwnaethai ei dadau: ni throdd efe oddi wrth bechodau Jeroboam mab Nebat, yr hwn a wnaeth i Israel bechu. º

10A Salum mab Jabes a fradfwriadodd yn ei erbyn ef, ac a’i trawodd ef gerbron y bobl, ac a’i lladdodd ef, ac a deyrnasodd yn eiIe ef. º

11A’r rhan arall o hanes Sachareia, wele, y mae yn ysgrifenedig yn llyfc cronici brenhinoedd Israel. º

12Dyma air yr ARGLWYDD, yr hwn a lefarasai efe wrth Jehu, gan ddywedyd, Meibion y bedwaredd genhedlaeth i ti a eisteddant ar orseddfa Israel. Ac felly y bu. º

13Salum mab Jabes a ddechreuodd deyrnasu yn y bedwaredd flwyddyn ar bymtheg ar hugain i Usseia, brenin Jwda, a mis cyfan y teyrnasodd efe yn Samaria. º

14Canys Menahem mab Gadi a aeth i fyny o Tirsa, ac a ddaeth i Samaria, ac a drawodd Salum mab Jabes yn Samaria, ac a’i lladdodd ef, ac a deyrnasodd yn ei le ef, º

15A’r rhan arall o hanes Salum, a’i fradwriaeth ef yr hon a fradfwriadodd efe, wele hwynt yn ysgrifenedig yn llyft cronici brenhinoedd Israel. º

16Yna Menahem a drawodd Tiffsa a’r rhai oll oedd ynddi, a’i therfynau, o Tirsa: oherwydd nad agorasant iddo ef, am hynny y trawodd efe hi; a’i holi wragedd beichiogion a rwygodd efe. º

17Yn y bedwaredd flwyddyn ar bym¬theg ar hugain i Asareia brenin Jwda y teyrnasodd Menahem mab Gadi ar Israel, a deng mlynedd y teyrnasodd efe yn Samaria. º

18Ac efe a wnaeth yr hyn oedd ddrwg yng ngolwg yr ARGLWYDD: ni throdd efe yn ei holl ddyddiau oddi wrth bechodau Jeroboam mab Nebat, yr hwn a wnaeth i Israel bechu. º

19A Phul brenin Asyria a ddaeth yn erbyn y wlad; a Menahem a roddodd i Pul fil o dalentau arian, fel y byddai ei law gydag ef, i sicrhau y frenhiniaeth yn ei law ef. º

20A Menahem a gododd yr arian ar Israel, scf ar yr holl rai cedyra o allu, ar bob un ddeg sici a deugain o arian, i’w rhoddi i frenin Asyria; felly brenin Asyria a ddychwelodd, ac nid arhosodd yno yn y wlad. º

21! A’r rhan arall o hanes Mcnahem a’r hyn oll a wnaeth efe, onid ydynt hwy yn ysgrifenedig yn llyfr cronici bren¬hinoedd Israel? º

22A Menahem a hunodd gyda’i dadau, xxx a Phecaheia ei fab a deyrnasodd yn ei le ef. º23?I Yn y ddegfed flwyddyn a deugain i Asareia brenin Jwda y teyrnasodd Pecaheia mab Menahem ar Israel yn Samaria, a dwy flynedd y teyrnasodd efe. º

23

24Ac efe a wnaeth yr hyn oedd ddrwg yng ngolwg yr ARGLWYDD: ni throdd efe oddi wrth bechodau Jeroboam mab Nebat, yr hwn a wnaeth i Israel bechu. º

25A Pheca mab Remaleia ei dywysog ‘ ef a fradfwriadodd yn ei erbyn ef, ac a’i trawodd ef yn Samaria, yn llys y brenin, gydag Argob, ac Arie, a chydag ef ddeng ŵr a deugain o feibion y Gileadiaid: ac efe a’i lladdodd ef, ac a deyrnasodd yn ei leef. º

26A’r rhan arall o hanes Pecaheia, a’r hyn oll a wnaeth efe, wele hwynt yn ysgrifenedig yn llyfr cronici brenhinoedd Israel. º

27Yn y ddeuddegfed flwyddyn a deugain i Asareia brenin Jwda y teyrnas¬odd Peca mab Remaleia ar Israel yn Samaria, ac ugain mlynedd y teyrnasodd efe. º

28Ac efe a wnaeth yr hyn oedd ddrwg yng ngolwg yr ARGLWYDD, ni throdd efe oddi wrth bechodau Jeroboam mab Nebat, yr hwn a wnaeth i Israel bechu. º

29Yn nyddiau Peca brenin Israel y daeth Tiglathpileser brenin Asyria, ac a enillodd Ijon, ac Abel-bethmaacha, a Janoa, Cedes hefyd, a Hasor, a Gilead, a Galilea, holl wlad Nafftali, ac a tt caethgludodd hwynt i Asyria. º

30A Hosea mab Ela a fradfwriadodd fradwriaeth yn erbyn Peca mab Remaleia;, ac a’i trawodd ef, ac a’i lladdodd, ac a deyrnasodd yn ei le ef, yn yr ugeinfed fiwyddyn i Jotham mab Usseia. º

31A’r rhan arall o hanes Peca, a’r hyn oll a wnaeth efe, wele hwynt yn ysgrifen¬edig yn llyfr cronicl brenhinoedd Israel. º

32Yn yr ail flwyddyn i Peca mab Remaleia brenin Israel y dechreuodd Jotham mab Usseia brenin Jwda deyrnasu. º

33Mab pum mlwydd ar hugain oedd efe pan ddechreuodd deyrnasu, ac un flwydd ar bymtheg y teyrnasodd efe yn Jerwsalem: ac enw ei fam ef oedd Jerwsa, merch Sadoc. º

34Ac efe a wnaeth yr hyn oedd uniawn yng ngolwg yr ARGLWYDD; yn ôl yr hyn oll a’r a wnaethai Usseia ei dad y gwnaeth efe. º

35Er hynny ni thynnwyd ymaith yr uchelfeydd; y bobl oedd eto yn aberthu ac yn arogldarthu yn yr uchelfeydd. Efe a adeiladodd y porth uchaf i dŷ yr AR¬GLWYDD. º

36y A’r rhan arall o hanes Jotham, a’r hyn oll a wnaeth efe, onid ydynt hwy yn ysgrifenedig yn llyfr cronicl brenhinoedd Jwda? º

37Yn y dyddiau hynny y dechreuodd yr ARGLWYDD anfon yn erbyn Jwda, Resin brenin Syria, a Pheca mab Remaleia. º

38A Jotham a hunodd gyda’i dadau, ac a gladdwyd gyda’i dadau yn ninas Dafydd ei dad, ac Ahas ei fab a deyrnasodd yn ei le ef.

← Llyfr Cyntaf y Cronicl 14Read In The App, Free →Llyfr Cyntaf y Cronicl 16 →

Study Llyfr Cyntaf y Cronicl 15

KJVMatthew HenryJamieson-Fausset-BrownAdam ClarkeJohn WesleyJohn CalvinKeil and DelitzschScofieldFamily Bible NotesGeneva Bible Notes (1599)Reina-Valera (Español)Bíblia Portuguesa MundialLuther Bibel (Deutsch)Bible Louis Segond (Français)

All Chapters

12345678910111213141516171819202122232425