Llyfr Cyntaf y Cronicl 15:19
A Phul brenin Asyria a ddaeth yn erbyn y wlad; a Menahem a roddodd i Pul fil o dalentau arian, fel y byddai ei law gydag ef, i sicrhau y frenhiniaeth yn ei law ef. º
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Read all of Llyfr Cyntaf y Cronicl 15
Cross References
2 Kings 12:18A Joas brenin Jwda a gymerth yr holl bethau cysegredig a gysegrasai Jehosa-ffat, a Jehoram, ac Ahaseia, ei dadau ef, brenhinoedd Jwda, a’i gysegredig bethau ef ei hun, a’r holl aur a gafwyd yn nhrysorau tŷ yr ARGLWYDD, a thŷ y brenin, ac a’u hanfonodd at Hasael brenin Syria, ac efe a ymadawodd oddi wrth Jerwsalem. º
2 Kings 16:8Ac Ahas a gymerth yr arian a’r aur a gafwyd yn nhŷ yr ARGLWYDD, ac yn nhrysorau tŷ y brenin, ac a’u hanfonodd yn anrheg i frenin Asyria. º
2 Kings 18:16Yn yr amser hwnnw y torrodd Heseceia yr aur oddi ar ddrysau teml yr ARGLWYDD, ac oddi ar y colomau a orchuddiasai Heseceia brenin Jwda, ac a’u rhoddes hwynt i frenin Asyria. º
1 Chronicles 5:26A Duw Israel a anogodd ysbryd Pul brenin Asyria, ac ysbryd Tilgath-pilneser brenin Asyria, ac a’u caethgludodd hwynt, sef y Reubeniaid, a’r Gadiaid, a hanner llwyth Manasse, ac a’u dug hwynt i Hala, a Habor, a Hara, ac i afon Gosan, hyd y dydd hwn.
Jeremiah 17:5Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD, Melltigedig fyddo y gŵr a hydero mewn dyn, ac a wnelo gnawd yn fraich iddo, a’r hwn y cilio ei galon oddi wrth yr AR¬GLWYDD. º
Hosea 8:9Canys hwy a aethant i fyny i Asyria, yn asyn gwyllt unig iddo ei hun: Effraim a gyflogodd gariadau.