Llyfr Cyntaf y Cronicl 16:3
Eithr rhodiodd yn ffordd brenhin¬oedd Israel, ac a dynnodd ei fab trwy’r tân, yn ôl ffieidd-dra’r cenhedloedd a fwriasai yr ARGLWYDD allan o flaen meibion Israel. º
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
4Ac efe a aberthodd ac a arogldarthodd yn yr uchelfeydd, ac ar y brymau, a than bob pren gwyrddlas. º
Read all of Llyfr Cyntaf y Cronicl 16
Cross References
Leviticus 20:2Dywed hefyd wrth feibion Israel, Pob un o feibion Israel, neu o’r dïeithr a ymdeithio yn Israel, yr hwn a roddo o’i had i Moloch, a leddir yn farw; pobl y tir a’i llabyddiant ef â cherrig.
Deuteronomy 18:10Na chaffer ynot a wnelo i’w fab, neu i’w ferch, fyned trwy y tân; neu a arfero ddewiniaeth, na phlanedydd, na daroganwr, na hudol,
1 Kings 14:24A gwŷr sodomiaidd oedd yn y wlad: gwnaethant hefyd yn ôl holl ffieidd-dra’r cenhedloedd a fwriasai yr ARGLWYDD allan o flaen meibion Israel. º
1 Kings 21:25Diau na bu neb fel Ahab yr hwn a ymwerthodd i wneuthur drwg yng ngolwg yr ARGLWYDD: oherwydd Jesebel ei wraig a’i hanogai ef. º
2 Kings 8:18Ac efe a rodiodd yn ffordd brenhin¬oedd Israel, fel y gwnai tŷ Ahab: canys merch Ahab oedd yn wraig iddo: felly efe a wnaeth yr hyn oedd ddrwg yng ngolwg yr ARGLWYDD. º
2 Kings 17:16A hwy a adawsant holl orchmynion yr ARGLWYDD eu Duw, ac a wnaethant iddynt ddelwau tawdd, nid amgen dau to: gwnaethant hefyd lwyn ac ymgrymasant i holl lu y nefoedd, a gwasanaethasant Baal. º