Llyfr Cyntaf y Cronicl 19:6
Ac Eseia a ddywedodd wrthynt, Fel hyn y dywedwch wrth eich meistr, Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD, Nac ofna y geiriau a glywaist, trwy y rhai y cablodd gweision brenin Asyria fi. º
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
5Felly gweision y brenin Heseceia a ddaethant at Eseia. º
Read all of Llyfr Cyntaf y Cronicl 19
Cross References
Exodus 14:13¶ A Moses a ddywedodd wrth y bobl, Nac ofnwch; sefwch, ac edrychwch ar iachawdwriaeth yr Arglwydd, yr hwn a wna efe i chwi heddyw; oblegid yr Aiphtiaid y rhai a welsoch chwi heddyw, ni chewch eu gweled byth ond hynny.
Deuteronomy 20:1Ni wasanaetha dinystrio prennau ymborth dyn, wrth warchae ar ddinas. Pan elych i ryfel yn erbyn dy elynion, a gweled meirch a cherbydau, a phobl fwy na thi, nac ofna rhagddynt: o herwydd yr Arglwydd dy Dduw fydd gyd â thi, yr hwn a’th ddug di i fynu o dir yr Aipht.
Joshua 11:6¶ A dywedodd yr Arglwydd wrth Josua, Nac ofna rhagddynt hwy: canys y fory ynghylch y pryd hyn y rhoddaf hwynt oll yn lladdedig o flaen Israel: llinynnau garrau eu meirch hwynt a dorri, a’u cerbydau a losgi di â thân.
2 Kings 18:17A brenin Asyria a anfonodd Tartan, a Rabsaris, a Rabsace, o Lachis, at y brenin Heseceia, a llu dh-fawr yn erbyn Jerwsalem. A hwy a aethant i fyny, ac a ddaethant i Jerwsalem. Ac wedi eu dyfod i fyny, hwy a ddaethant ac a safasant wrth bistyll y llyn uchaf, yr hwn sydd ym mhriffordd maes y pannwr. º
2 Kings 18:30Ac na phared Heseceia i chwi ymddiried yn yr ARGLWYDD, gan ddywedyd, Yr ARGLWYDD gan waredu a’n gwared ni, ac ni roddir y ddinas hon yn llaw brenin Asyria. º
2 Chronicles 20:15Ac efe a ddywedodd, Gwrandewch holl Jwda, a thrigolion Jerwsalem, a thithau frenin Jehosaffat, Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD wrthych chwi, Nac ofnwch, ac na ddigalonnwch rhag y dyrfa fawr hon: canys nid eiddoch chwi y rhyfel, eithr eiddo DDUW.