Llyfr Cyntaf y Cronicl 2:14
Ac efe a gymerth fantell Eleias a syrthiasai oddi wrtho ef, ac a drawodd y dyfroedd, ac a ddywedodd. Pa le y mae ARGLWYDD DDUW Eleias? Ac wedi iddo yntau daro’r dyfroedd, hwy a wahanwyd yma ac acw. Ac Eliseus a aeth drosodd.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Read all of Llyfr Cyntaf y Cronicl 2
Cross References
Exodus 14:22A meibion Israel a aethant trwy ganol y môr ar dir sych: a’r dyfroedd oedd yn fur iddynt, o’r tu dehau, ac o’r tu aswy.
Judges 6:13A Gedeon a ddywedodd wrtho, O fy arglwydd, od yw yr ARGLWYDD gyda ni, paham y digwyddodd hyn oll i ni? a pha le y mae ei holl ryfeddodau ef, y rhai a fynegodd ein tadau i ni, gan ddywedyd, Oni ddug yr ARGLWYDD ni i fyny o’r Aifft? Ond yn awr yr AR¬GLWYDD a’n gwrthododd ni, ac a’n rhoddodd i law y Midianiaid.
2 Kings 2:8Ac Eleias a gymerth ei fantell, ac a’i plygodd ynghyd, ac a drawodd y dyfroedd, a hwy a ymwahanasant yma ac acw, fel yr aethant hwy trwodd ill dau ar dir sych.
Psalms 42:10Eithr ti, ARGLWYDD, trugarha wrthyf; a chyfod fi, fel y talwyf iddynt.
Jeremiah 2:6Ac ni ddywedant, Pa le y mae yr AR¬GLWYDD a’n dug ni i fyny o dir yr Aifft; a’n harweiniodd trwy yr anialwch; trwy dir diffaith, a phyllau; trwy dir sychder, a chysgod angau; trwy dir nid aeth gŵr trwyddo, ac ni thrigodd dyn ynddo?
Mark 16:20A hwythau a aethant allan, ac a bregethasant ymmhob man, a’r Arglwydd yn cydweithio, ac yn cadarnhau’r gair, trwy arwyddion y rhai oedd yn canlyn. Amen.