Llyfr Cyntaf y Cronicl 2:15
A phan welodd meibion y proffwydi ef, y rhai oedd yn Jericho ar ei gyfer, hwy a ddywedasant, Gorffwysodd ysbryd Eleias ar Eliseus. A hwy a ddaethant i’w gyfarfod ef, ac a ymgrymasant hyd lawr iddo.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Read all of Llyfr Cyntaf y Cronicl 2
Cross References
Numbers 11:25Yna y disgynodd yr Arglwydd mewn cwmmwl, ac a lefarodd wrtho; ac a gymmerodd o’r yspryd oedd arno, ac a’i rhoddes i’r deg henaf-gwyr a thri ugain. A thra y gorphwysai yr yspryd arnynt, y prophwydent, ac ychwaneg ni wnaent.
Joshua 3:7¶ A dywedodd yr Arglwydd wrth Josua, Y dydd hwn y dechreuaf dy fawrhâu di y’ngŵydd holl Israel: fel y gwypont, mai megis y bûm gyd â Moses, y byddaf gyd â thithau.
1 Samuel 10:5Ar ôl hynny y deui i fryn Duw, yn yr hwn y mae sefyllfa y Philistiaid: a phan ddelych yno i’r ddinas, ti a gyfarfyddi a thyrfa o broffwydi yn disgyn o’r uchelfa, ac o’u blaen hwynt nabi, a thympan, a phibell, a thelyn; a hwythau yn proffwydo. º
2 Kings 2:7A dengwr a deugain o feibion y proffwydi a aethant, ac a safasant ar gyfer o bell: a hwy ill dau a safasant wrth yr Iorddonen.
2 Kings 4:1A rhyw wraig o wragedd meibion y proffwydi a lefodd ar Eliseus, gan ddywedyd, Dy was fy ngŵr a fu farw; a thi a wyddost fod dy was yn ofni yr AR¬GLWYDD: a’r echwynnwr a ddaeth i gymryd fy nau fab i i fod yn gaethion iddo.
2 Kings 5:22Dywedodd yntau, Y mae pob peth yn dda. Fy meistr a’m hanfonodd i, gan ddywedyd, Wele, yr awr hon dau lanc o fynydd Effraim, o feibion y proffwydi, a ddaeth ataf fi: dyro yn awr iddynt hwy dalent o arian, a dau bâr o ddillad.