Llyfr Cyntaf y Cronicl 2:24
Ac efe a drodd yn ei ôl, ac a edrychodd arnynt, ac a’u melltithiodd yn enw yr ARGLWYDD. A dwy arth a ddaeth allan o’r goedwig, ac a ddrylliodd ohonynt ddau blentyn a deugain.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
25Ac efe a aeth oddi yno i fynydd Carmel, ac oddi yno efe a ddychwelodd i Samaria.
Read all of Llyfr Cyntaf y Cronicl 2
Cross References
Genesis 9:25Ac efe a ddywedodd, Melldigedig fyddo Canaan; gwas gweision i’w frodyr fydd.
Leviticus 26:22Ac anfonaf fwystfil y maes yn eich erbyn, ac efe a’ch gwna chwi yn ddiblant, ac a ddifetha eich anifeiliaid, ac a’ch lleihâ chwi; a’ch ffyrdd a wneir yn anialwch.
Judges 9:20Ac onid e, eled tan allan o Abi¬melech, ac ysed wŷr Sichem, a thŷ Milo; hefyd eled tan allan o wŷr Sichem, ac o dy Milo, ac ysed Abimelech. º
2 Samuel 17:8Canys, eb Husai, ti a wyddost am dy dad a’i wŷr, mai cryfion ydynt hwy, a chreulon eu meddwl, megis arth wedi colli ei chenawon yn y maes: dy dad hefyd sydd ryfelwr, ac nid erys efe dros nos gyda’r bobl. º
1 Kings 19:17A’r hwn a ddihango rhag cleddyf Hasael, Jehu a’i lladd ef: ac Eliseus a ladd yr hwn a ddihango rhag cleddyf Jehu. º
2 Kings 1:10Ac Eleias a atebodd ac a ddywedodd wrth dywysog y deg a deugain, Os gŵr i Duw ydwyf fi, disgynned tân o’r nefoedd, ac ysed di a’th ddeg a deugain. A thân a ddisgynnodd o’r nefoedd, ac a’i hysodd ef a’i ddeg a deugain.