Llyfr Cyntaf y Cronicl 23:3
Sl A’r brenin a safodd wrth y golofn, ac a wnaeth gyfamod gerbron yr AR¬GLWYDD, ar fyned ar ôl yr ARGLWYDD, ac ar gadw ei orchmynion ef, a’i dystiolaethau, a’i ddeddfau, a’i holl galon, ac a’i holl enaid, i gyflawni geiriau y cyfamod hwn, y rhai oedd ysgrifenedig yn y llyfr hwn. A’r holl bobl a safodd wrth y cyfamod. º
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Read all of Llyfr Cyntaf y Cronicl 23
Cross References
Exodus 24:3¶ A Moses a ddaeth, ac a fynegodd i’r bobl holl eiriau yr Arglwydd, a’r holl farnedigaethau. Ac attebodd yr holl bobl yn un-air, ac a ddywedasant, Ni a wnawn yr holl eiriau a lefarodd yr Arglwydd.
Deuteronomy 4:45Dyma y tystiolaethau, a’r deddfau, a’r barnedigaethau, a lefarodd Moses wrth feibion Israel, gwedi eu dyfod allan o’r Aipht:
Deuteronomy 6:1Annog i ufuddhâu. A dyma y gorchymynion, y deddfau, a’r barnedigaethau a orchymynodd yr Arglwydd eich Duw eu dysgu i chwi; fel y gwneloch hwynt yn y wlad yr ydych yn myned iddi i’w meddiannu:
Deuteronomy 8:19Ac os gan anghofio yr anghofi yr Arglwydd dy Dduw, a dilyn duwiau dïeithr, a’u gwasanaethu hwynt, ac ymgrymmu iddynt; yr ydwyf fi yn tystiolaethu yn eich erbyn chwi heddyw, gan ddifetha y’ch difethir.
Deuteronomy 11:13¶ A bydd, os gan wrandaw y gwrandêwch ar fy ngorchymynion, y rhai yr ydwyf yn eu gorchymyn i chwi heddyw, i garu yr Arglwydd eich Duw, ac i’w wasanaethu, â’ch holl galon, ac â’ch holl enaid;
Deuteronomy 29:1I Dduw y perthyn pethau dirgel. Dyma eiriau y cyfammod a orchymynodd yr Arglwydd wrth Moses ei wneuthur â meibion Israel, yn nhir Moab, heb law y cyfammod a ammododd efe â hwynt yn Horeb.