Llyfr Cyntaf y Cronicl 23:30
A’i weision a’i dygasant ef mewa cerbyd yn farw o Megido, ac a’i dygasant ef i Jerwsalem, ac a’i claddasant ef yn ei feddrod ei hun. A phobl y wlad a gymerasant Joahas mab Joseia, ac a’i henem" iasant ef, ac a’i hurddasant yn frenin ŷd lle ei dad. º
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Read all of Llyfr Cyntaf y Cronicl 23
Cross References
1 Kings 22:33A phan welodd tywysogion y cerbydrau nad brenin Israel oedd efe, hwy a ddychwelasant oddi ar ei ôl ef. º
2 Kings 14:21A holl bobl Jwda a gymerasant Asareia, ac yntau yn fab un flwydd ar bymtheg, ac a’i hurddasant ef yn frenin yn lle Amaseia ei dad. º
2 Chronicles 35:24Felly ei weision a’i tynasant ef o’r cerbyd, ac a’i gosodasant ef yn yr ail gerbyd yr hwn oedd ganddo: dygasant ef hefyd i Jerwsalem, ac efe fu farw, ac a gladdwyd ym meddrod ei dadau. A holl Jwda a Jerwsalem a alarasant am Joseia.
Jeremiah 22:10Nac wylwch dros y marw, ac na ymofidiwch amdano, ond gan wylo wyl¬wch am yr hwn sydd yn myned ymaith’: canys ni ddychwel mwyach, ac ni wel wlad ei enedigaeth. º