Llyfr Cyntaf y Cronicl 23:7
Ac efe a fwriodd i lawr dai y sodomiaida y rhai oedd wrth dŷ yr ARGLWYDD, lle yr oedd y gwragedd yn gwau cortynnau i’r llwyn. º
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Read all of Llyfr Cyntaf y Cronicl 23
Cross References
Exodus 35:25A phob gwraig ddoeth o galon a nyddodd â’i dwylo; ac a ddygasant yr edafedd sidan glas, a phorphor, ac ysgarlad, a llïan main.
1 Kings 14:24A gwŷr sodomiaidd oedd yn y wlad: gwnaethant hefyd yn ôl holl ffieidd-dra’r cenhedloedd a fwriasai yr ARGLWYDD allan o flaen meibion Israel. º
1 Kings 22:46A’r rhan arall o’r sodomiaid a’r a-adawyd yn nyddiau Asa ei dad ef, efe a’u dileodd o’r wlad. º
Ezekiel 8:14Ac efe a'm dug i ddrws porth ty yr ARGLWYDD, yr hwn oedd tua'r gog¬ledd; ac wele yno wragedd yn eistedd yn wylo am Tammus.
Hosea 2:13A mi a ymwelaf â hi am ddyddiau Baalim, yn y rhai y llosgodd hi arogl-darth iddynt, ac y gwisgodd ei chlustfodrwyau a’i thlysau, ac yr aeth ar ôl ei chariadau, ac yr anghofiodd fi, medd yr ARGLWYDD.
Hosea 4:14Nid ymwelaf â’ch merched pan buteiniont, nac â’ch gwragedd pan dorront briodas: am fod y rhai hyn yn ymddidoli gyda phuteiniaid, ac aberthasant gyda dihirogod; a’r bobl ni ddeallant, a dramgwyddant.