Llyfr Cyntaf y Cronicl 24:2
A’r ARGLWYDD a anfonodd yn ei erbyn ef dorfoedd o’r Caldeaid, a thor-foedd o’r Syriaid, a thorfoedd o’r Moab¬iaid, a thorfoedd o feibion Ammon, ac a’u hanfonodd hwynt yn erbyn Jwda i’w dinistrio hi, yn ôl gair yr ARGLWYDD, yr hwn a lefarasai efe trwy law ei weision y proffwydi. º
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Read all of Llyfr Cyntaf y Cronicl 24
Cross References
2 Kings 6:23Ac efe a arlwyodd iddynt hwy arlwy fawr: a hwy a fwytasant ac a yfasant; ac efe a’u gollyngodd hwynt ymaith, a hwy a aethant at eu harglwydd. Felly byddinoedd Syria ni chwanegasant ddyfod mwyach i wlad Israel.
2 Kings 20:17Wele y dyddiau yn dyfod, pan ddyger i Babilon yr hyn oll sydd yn dy dŷ di, a’r hyn a gynilodd dy dadau hyd y dydd hwn: ni adewir dim, medd yr ARGLWYDD. º
2 Kings 22:16Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD, Wele fi yn dwyn drwg ar y lle hwn, ac ar ei drigolion, sef holl eiriau y llyfr a ddar-llenodd brenin Jwda: º
2 Chronicles 33:11Am hynny y dug yr ARGLWYDD arnynt hwy dywysogion llu brenin Asyria, a hwy a ddaliasant Manasse mewn drysni, ac a’i rhwymasant ef â dwy gadwyn, ac a’i dygasant ef i Babilon.
Isaiah 6:11Yna y dywedais. Pa hyd, ARGLWYDD? Ac efe a atebodd, Hyd oni anrheithier y dinasoedd heb drigiannydd, a’r tai heb ddyn, a gwneuthur y wlad yn gwbl anghyfannedd,
Isaiah 13:5Dyfod y maent o wlad bell, o eithaf y nefoedd; sef yr ARGLWYDD, ac arfau ei lidiowgrwydd, i ddifa yr holl dir. º