Llyfr Cyntaf y Cronicl 25:14
Y crochanau hefyd, a’r rhawiau, a’r saltringau, y llwyau, a’r holl lestri pres, y rhai yr oeddid yn gwasanaethu a hwynt, a ddygasant hwy ymaith. º
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Read all of Llyfr Cyntaf y Cronicl 25
Cross References
Exodus 27:3Gwna hefyd iddi bedyll i dderbyn ei lludw, a’i rhawiau, a’i chawgiau, a’i chigweiniau, a’i phedyll tân: ei holl lestri a wnei o bres.
1 Kings 7:40Gwnaeth Hiram hefyd y noeau, a’r rhawiau, a’r cawgiau: a Hiram a orffennodd wneuthur yr holl waith, yr hwn a wnaeth efe i’r brenin Solomon yn nhŷ yr ARGLWYDD.
1 Kings 7:47A Solomon a beidiodd â phwyso yr holl lestri, oherwydd eu lluosowgrwydd anfeidrol hwynt: ac ni wybuwyd pwys y pres chwaith.
2 Chronicles 24:14A phan orffenasant hwy ef, hwy a ddygasant y gweddill o’r arian gerbron y brenin a Jehoiada; a hwy a wnaethant ohonynt lestri i dŷ yr ARGLWYDD, sef llestri y weinidogaeth, a’r morterau, a’r llwyau, a’r llestri aur ac arian. Ac yr oeddynt hwy yn offrymu poethoffrymau yn nhŷ yr ARGLWYDD yn wastadol, holl ddyddiau Jehoiada.