Llyfr Cyntaf y Cronicl 25:3
Ac ar y nawfed dydd o’r pedwerydd mis y trymhaodd y newyn yn y ddinas, ac nid oedd bara i bobl y wlad. º
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
2A bu y ddinas yng ngwarchae hyd yr unfed flwyddyn ar ddeg i’r brenin Sedeceia. º
Read all of Llyfr Cyntaf y Cronicl 25
Cross References
Deuteronomy 28:52A hi a warchae arnat ti yn dy holl byrth, hyd oni syrthio dy uchel a’th gedyrn gaerau, y rhai yr ydwyt yn ymddiried ynddynt, trwy dy holl dir: hi a warchae hefyd arnat yn dy holl byrth, o fewn dy holl dir yr hwn a roddodd yr Arglwydd dy Dduw i ti.
Jeremiah 19:9A mi a baraf iddynt fwyta cnawd eu meibion, a chnawd eu merched, bwytant hefyd bob un gnawd ei gyfaill, yn y gwarchae a’r cyfyngder, a’r hwn y cyfynga eu gelynion, a’r rhai sydd yn ceisio eu heinioes, arnynt. º
Jeremiah 38:2Fel hyn y dywedodd yr ARGLWYDD, Yr hwn a arhoso yn y ddinas hon, a fydd farw trwy y cleddyf, trwy newyn, a thrwy haint: ond y neb a elo allan at y Caldeaid, a fydd byw; canys ei einioes fydd yn ysglyfaeth iddo, a byw fydd. º
Jeremiah 52:6Yn y pedwerydd mis, yn y nawfed dydd o’r mis, y newyn a drymhaodd yn y ddinas, fel nad oedd bara i bobl y wlad. º
Ezekiel 4:9Cymer i ti hefyd wenith, a haidd, a ffa, a ffacbys, a milet, a chorbys, a dod hwynt mewn un llestr, a gwna hwynt i ti yn fara, dros rifedi y dyddiau y gorwedd¬ych ar dy ystlys: tri chan niwrnod a deg a phedwar ugain y bwytei ef.
Ezekiel 5:10Am hynny y tadau a fwytant y plant yn dy fysg di, a'r plant a fwyty eu tadau; a gwnaf ynot farnedigaethau, a mi a daenaf dy holl weddill gyda phob gwynt.