Llyfr Cyntaf y Cronicl 25:7
Lladdasant feibion Sedeceia hefyd o flaen ei lygaid, ac a dynasant lygaid Sedeceia, ac a’i rhwymasant ef mewn gefynnau pres, ac a’i dygasant ef i Babilon. º
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Read all of Llyfr Cyntaf y Cronicl 25
Cross References
Genesis 21:16A hi a aeth, ac a eisteddodd ei hunan ym mhell ar ei gyfer, megis ergyd bwa: canys dywedasai, Ni allaf fi edrych ar y bachgen yn marw. Felly hi a eisteddodd ar ei gyfer, ac a ddyrchafodd ei llef, ac a wylodd.
Deuteronomy 28:34A byddi wallgofus, gan weledigaeth dy lygaid yr hon a welych.
2 Chronicles 33:11Am hynny y dug yr ARGLWYDD arnynt hwy dywysogion llu brenin Asyria, a hwy a ddaliasant Manasse mewn drysni, ac a’i rhwymasant ef â dwy gadwyn, ac a’i dygasant ef i Babilon.
Psalms 107:10Achubodd hwynt hefyd o law eu digasog; ac a’u gwaredodd o law y gelyn.
Isaiah 22:3Dy holl dywysogion a gydffoesant, gan y perchen bwâu y rhwymwyd hwynt: y rhai oll a gafwyd ynot a gydrwymwyd, y rhai a ffoesant o bell. º
Jeremiah 22:30Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD, Ysgrifennwch y gŵr hwn yn ddi-blant, gŵr ni ffynna yn ei ddyddiau: canys ni ffynna o’i had efun a eisteddo ar orseddfa Dafydd, nac a lywodraetho mwyach yn Jwda.