Llyfr Cyntaf y Cronicl 3:27
Yna efe a gymerodd ei fab cyntaf-anedig ef, yr hwn oedd i deyrnasu yn ei le ef, ac a’i hoffrymodd ef yn boethoffrwm ar y mur. A bu llid mawr yn erbyn Israel: a hwy a aethant ymaith oddi wrtho ef, ac a ddychwelasant i’w gwlad eu hun.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Read all of Llyfr Cyntaf y Cronicl 3
Cross References
Genesis 22:13Yna y dyrchafodd Abraham ei lygaid, ac a edrychodd; ac wele o’i ol ef hwrdd, wedi ei ddal erbyn ei gyrn mewn dyrysni: ac Abraham a aeth ac a gymmerth yr hwrdd, ac a’i hoffrymmodd yn boeth-offrwm yn lle ei fab.
Judges 11:31Yna yr hwn a ddelo allan o ddrysau fy nhŷ i’m cyfarfod, pan ddychwelwyf mewn heddwch oddi wrth feibion Ammon, a fydd eiddo yr ARGLWYDD, a mi a’i hoffrymaf ef yn boethoffrwm. º
1 Samuel 14:36A dywedodd Saul, Awn i waered ar ôl y Philistiaid liw nos, ac anrheithiwn hwynt hyd oni oleuo y bore, ac na adawn un ohonynt. Hwythau a ddywedasant, Gwna yr hyn oll fyddo da yn dy olwg. Yna y dywedodd yr offeiriad, Nesawn yma at DDUW. º
1 Kings 20:28A gŵr i DDUW a nesaodd, ac a lefarodd wrth frenin Israel, ac a ddywedodd, Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD; Oherwydd dywedyd o’r Syriaid, Duw y mynyddoedd yw yr ARGLWYDD, ac nid Duw y dyffrynnoedd yw efe; am. hynny y rhoddaf yr holl dyrfa fawr hon i’th law di, a chwi a gewch wybod mai myfi yw yr ARGLWYDD. º
Psalms 106:37Ac a’u dug hwynt allan ag arian ac aur; ac heb un llesg yn eu llwythau.
Amos 2:1Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD; Am dair o anwireddau Moab, ac am bedair, ni throaf ymaith ei chosb hi; am iddo losgi esgyrn brenin Edom yn galch.