Llyfr Cyntaf y Cronicl 4:42
A daeth gŵr o Baal-salisa, ac a ddug i ŵr Duw o fara blaenffrwyth ugain torth haidd, a thywysennau o ŷd newydd yn ei gibau. Ac efe a ddywedodd, Dod i’r bobl, fel y bwytaont.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Read all of Llyfr Cyntaf y Cronicl 4
Cross References
Exodus 23:16A gwyl cynhauaf blaen-ffrwyth dy lafur, yr hwn a heuaist yn y maes; a gwyl y cynnull yn niwedd y flwyddyn, pan gynhullech dy lafur o’r maes.
Numbers 18:13Blaen-ffrwyth pob dim yn eu tir hwynt yr hwn a ddygant i’r Arglwydd, fydd eiddot ti: pob un glân yn dy dŷ a fwytty o hono.
Deuteronomy 12:6A dygwch yno eich poeth-offrymmau, a’ch aberthau, a’ch degymmau, ac offrwm dyrchafael eich llaw, eich addunedau hefyd, a’ch offrymmau gwirfodd, a chyntaf-anedig eich gwartheg a’ch defaid.
Deuteronomy 32:14Ymenyn gwartheg, a llaeth defaid, ynghyd â braster ŵyn, a hyrddod o rywogaeth Basan, a bychod, ynghyd â braster grawn gwenith, a phur-waed grawnwin a yfaist.
1 Samuel 9:7Yna y dywedodd Saul wrth ei lane, Wele, od awn ni, pa beth a ddygwn ni i’r gwr? canys y bara a ddarfu yn ein llestri ni, a gwobr arall nid oes i’w ddwyn i ŵr Duw: beth sydd gennym? º
2 Kings 4:38Ac Eliseus a ddychwelodd i Gilgal. Ac yr oedd newyn yn y wlad; a meibion y proffwydi oedd yn eistedd ger ei fron ef: ac efe a ddywedodd wrth ei was, Trefna’r crochan mawr, a berw gawl i feibion y proffwydi.