Llyfr Cyntaf y Cronicl 6:32
Ond Eliseus oedd yn eistedd yn ei dŷ, a’r henuriaid yn eistedd gydag ef. A’r brenin a anfonodd ŵr o’i flaen: ond cyn dyfod y gennad ato ef, efe a ddywedodd wrth yr henuriaid, A welwch chwi fel yr anfonodd mab y llofrudd hwn i gymryd ymaith fy mhen i? Edrychwch pan ddêl y gennad i mewn, caewch y drws, a deliwch ef wrth y drws: onid yw trwst traed ei arglwydd ar ei ôl ef?
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Read all of Llyfr Cyntaf y Cronicl 6
Cross References
1 Kings 14:6A phan glybu Ahia drwst ei thraed hi yn dyfod i’r drws, efe a ddywedodd, Tyred i mewn, gwraig Jeroboam; i ba beth yr wyt ti yn ymddieithro? canys’ myfi a anfonwyd atat ti a newyddion caled. º
1 Kings 18:13Oni fynegwyd i’m harglwydd yr hyn ‘ wneuthum i, pan laddodd Jesebel broffwydi yr ARGLWYDD, fel y cuddiais gannwr o broffwydi yr ARGLWYDD, bob yn ddengwr a deugain mewn ogof, ac y porthais hwynt a bara ac a dwfr? º
1 Kings 21:13A dau ŵr, o feibion y fall, a ddaethant, ac a eisteddasant ar ei gyfer ef: a gwŷr y fall a dystiolaethasant yn ei erbyn ef, sef yn erbyn Naboth, gerbron y bobl, gan ddywedyd, Naboth a gablodd DDUW a’r brenin. Yna hwy a’i dygasant ef allan o’r ddinas, ac a’i llabyddiasant ef a meini, fel y bu efe farw. º
2 Kings 5:26Ac efe a ddywedodd wrtho, Onid aeth fy nghalon gyda thi, pan drodd y gŵr oddi ar ei gerbyd i’th gyfarfod di? a ydoedd hi amser i gymryd arian, ac i gymryd gwisgoedd, ac olewyddlannau, a gwinllannau, a defaid, a gwartheg, a gweision, a morynion?
Jeremiah 11:18A’r ARGLWYDD a hysbysodd i mi, a mi a’i gwn; yna y dangosaist i mi eu gweithredoedd hwy.
Ezekiel 14:1YNA y daeth ataf wyr o henuriaid Israel, ac a eisteddasant o'm blaen.