Llyfr Cyntaf y Cronicl 7:3
Ac yr oedd pedwar gŵr gwahanglwyfus wrth ddrws y porth, a hwy a ddywedasant wrth ei gilydd, Paham yr ydym ni yn aros yma nes ein meirw?
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Read all of Llyfr Cyntaf y Cronicl 7
Cross References
Leviticus 13:46Yr holl ddyddiau y byddo y pla arno, bernir ef yn aflan: aflan yw efe: triged ei hunan; bydded ei drigfa allan o’r gwersyll.
Numbers 12:14¶ A dywedodd yr Arglwydd wrth Moses, Os ei thad a boerai yn ei hwyneb, oni chywilyddiai hi saith niwrnod? cauer arni saith niwrnod o’r tu allan i’r gwersyll, ac wedi hynny derbynier hi.
2 Kings 7:4Os dywedwn ni, Awn i mewn i’r ddinas, newyn sydd yn y ddinas, a ni a fyddwn feirw yno; ac os trigwn yma, ni a fyddwn feirw hefyd. Am hynny deuwch yn awr, ac awn i wersyll y Syriaid: o chadwant ni yn fyw, byw fyddwn; ac os lladdant ni, byddwn feirw.
Jeremiah 8:14Paham yr ydym ni yn aros? ymgesglwch ynghyd, ac awn i’r dinasoedd cedyrn, a distawn yno: canys yr AR¬GLWYDD ein Duw a’n gostegodd, ac a roes i ni ddwfr bustl i’w yfed, oherwydd pechu ohonom yn erbyn yr ARGLWYDD.