Llyfr Cyntaf y Cronicl 8:9
Felly Hasael a aeth i’w gyfarfod ef, ac a gymerth anrheg yn ei law, a phob peth a’r a oedd dda o Damascus, sef Bwyth deugain o gamelod; ac a ddaeth, ac a safodd o’i flaen ef, ac a ddywedodd, Benhadad brenin Syria dy fab a’m hanfonodd atat, gan ddywedyd, A fyddaf fi byw o’r clefyd hwn? º
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Read all of Llyfr Cyntaf y Cronicl 8
Cross References
1 Samuel 25:8Gofyn i’th lanciau, a hwy a fynegant i ti: gan hynny caed y llanciau hyn ffafr yn dy olwg di; canys ar ddiwrnod da y daethom ni; dyro, atolwg, yr hyn a ddelo i’th law, i’th weision, ac i’th fab Dafydd. º
1 Kings 19:15A’r ARGLWYDD a ddywedodd wrtho, DOS, dychwel i’th ffordd i anialwch Damascus: a phan ddelych, eneinia Hasael yn frenin ar Syria; º
2 Kings 5:5A brenin Syria a ddywedodd, Dos, cerdda, a mi a anfonaf lythyr at frenin Israel. Ac efe a aeth ymaith, ac a ddug gydag ef ddeg talent o arian, a chwe mil o aur, a deg pâr o ddillad.
2 Kings 6:21A brenin Israel a ddywedodd wrth Eliseus, pan welodd efe hwynt, Gan daro a drawaf hwynt, fy nhad?
2 Kings 16:7Yna Ahas a anfonodd genhadau at Tiglathpileser brenin Asyria, gan ddywedyd, Dy was di a’th fab di ydwyf fi: tyred i fyny, a gwared fi o law brenin Syria, ac o law brenin Israel, y rhai sydd yn cyfodi yn fy erbyn i. º
Philemon 1:14Eithr heb dy feddwl di nid ewyllysiais wneuthur dim; fel na byddai dy ddaioni di megis o anghenraid, ond o fodd. 1: