Llyfr Cyntaf y Cronicl 9:14
A Jehu mab Jehosaffat mab Nimsi a gydfwriadodd yn erbyn Joram: (a Joram oedd yn cadw RamothGilead, efe a holl Israel, rhag Hasael brenin Syria: º
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Read all of Llyfr Cyntaf y Cronicl 9
Cross References
1 Kings 16:7Hefyd trwy law Jehu mab Hanani y proffwyd y bu gair yr ARGLWYDD yn erbyn Baasa, ac yn erbyn ei d ef, oherwydd yr holl ddrygioni a wnaeth efe yng ngolwg yr ARGLWYDD, gan ei ddigio ef trwy waith ei ddwylo; gan fod fel tŷ Jeroboam, ac oblegid iddo ei ladd ef. º
1 Kings 16:16A chlybu y bobl y rhai oedd yn y gwersyll ddywedyd, Simri a gydfwriad¬odd, ac a laddodd y brenin. A holl Israel a goronasant Omri, tywysog y llu, yn frenin y dwthwn hwnnw ar Israel, yn y gwersyll. º
2 Kings 8:12A Hasael a ddywedodd, Paham y mae fy arglwydd yn wylo? Dywedodd yntau. Am fy mod yn gwybod y drwg a wnei di i feibion Israel: eu hamddiffynfaoedd hwynt a losgi di â thân, a’u gwŷr ‘ieuainc a leddi â’r cleddyf, a’u plant a bwyi, a’u gwragedd beichiogion a rwygi. º
2 Kings 8:29A Joram y brenin a ddychwelodd i Jesreel i ymiacháu o’r briwiau a roesai y Syriaid iddo ef yn Rama, wrth ymladd, ohono ef yn erbyn Hasael brenin Syria: ac Ahaseia mab Jehoram brenin Jwda a aeth i waered i ymweled a Joram mab Ahab yn Jesreel; canys claf ydoedd.
2 Kings 9:31A phan oedd Jehu yn dyfod i mewn i’r porth, hi a ddywedodd, A fu heddwch "i Simri, yr hwn a laddodd ei feistr? º
2 Kings 12:21A Josachar mab Simeath, a Josabad mab Somer, ei weision ef, a’i trawsant ef, ac efe a fu farw; a hwy a’i claddasant ef gyda’i dadau yn ninas Dafydd: ac Amaseia ei fab a deyrnasodd yn ei le ef.