Llyfr Cyntaf y Cronicl 9:3
Yna cymer y ffiolaid olew, a thywallt ar ei ben ef, a dywed, Fel hyn y dywedodd yr ARGLWYDD; Mi a’th eneiniais di yn frenin ar Israel; yna agor y drws, a ffo, ac nac aros. º
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
4Felly y llanc, sef llanc y proffwyd, a aeth i RamothGilead. º
Read all of Llyfr Cyntaf y Cronicl 9
Cross References
Exodus 29:7Yna y cymmeri olew yr enneiniad, ac y tywellti ar ei ben ef, ac yr enneini ef.
1 Samuel 9:16Ynghylch y pryd hwn yfory yr anfonaf atat ti ŵr o wlad Benjamin; a thi a’i heneini ef yn flaenor ar fy mhobl Israel, ac efe a wared fy mhobl o law y Philistiaid: canys edrychais ar fy mhobl; oherwydd daeth eu gwaedd ataf. º
1 Samuel 15:1Asamuel a ddywedodd wrth Saul, Yr ARGLWYDD a’m hanfonodd i i’th eneinio di yn frenin ar ei bobl, sef ar Israel: ac yn awr gwrando ar lais geiriau yr ARGLWYDD. º
1 Samuel 16:2A Samuel a ddywedodd. Pa fodd yr af fi? os Saul a glyw, efe a’m lladd i. A dywedodd yr ARGLWYDD, Cymer anner-fuwch gyda thi. a dywed, Deuthum i aberthu i’r ARGLWYDD. º
1 Kings 19:16A Jehu mab Nimsi a eneini di yn frenin ar Israel; ac Eliseus mab Saffat, o Abel-mehola, a eneini di yn broffwyd yn dy Ie dy hun. º
2 Chronicles 22:7A dinistr Ahaseia oedd oddi wrth DDUW, wrth ddyfod at Joram: canys pan ddaeth, efe a aeth gyda Jehoram yn erbyn Jehu mab Nimsi, yr hwn a eneiniasai yr ARGLWYDD i dorri ymaith dyˆ Ahab.