2 Peter 1:17
Canys efe a dderbyniodd gan Dduw Dad barch a gogoniant, pan ddaeth y cyfryw lef ato oddi wrth y mawr-ragorol Ogoniant, Hwn yw fy annwyl Fab i, yn yr hwn y’m bodlonwyd.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
18A’r llef yma, yr hon a ddaeth o’r nef, a glywsom ni, pan oeddem gydag ef yn y mynydd sanctaidd.
Cross References
Isaiah 53:10Eithr yr ARGLWYDD a fynnai ei ddryllio ef; efe a’i clwyfodd: pan osodo efe ei enaid yn abcrth dros bechod, efe a wel ei had, efe a estyn ei ddyddiau; ac ewyllys yr ARGLWYDD a lwydda yn ei law ef. º
Matthew 11:25¶ Yr amser hwnnw yr atebodd yr Iesu, ac y dywedodd, I ti yr ydwyf yn diolch, O Dad, Arglwydd nef a daear, am i ti guddio’r pethau hyn rhag y doethion a’r rhai deallus, a’u datguddio ohonot i rai bychain:
Matthew 17:3Ac wele, Moses ac Eleias a ymddangosodd iddynt, yn ymddiddan ag ef.
Matthew 28:19Ewch gan hynny a dysgwch yr holl genhedloedd, gan eu bedyddio hwy yn enw’r Tad, a’r Mab, a’r Ysbryd Glân;
Mark 9:7A daeth cwmwl yn cysgodi drostynt hwy: a llef a ddaeth allan o’r cwmwl, gan ddywedyd, Hwn yw fy annwyl Fab; gwrandewch ef.
Luke 9:34Ac fel yr oedd efe yn dywedyd hyn, daeth cwmwl, ac a’u cysgododd hwynt: a hwynt-hwy a ofnasant wrth fyned ohonynt i’r cwmwl.