2 Peter 3:15
A chyfrifwch hir amynedd ein Harglwydd yn iachawdwriaeth; megis ag yrysgrifennodd ein hannwyl frawd Paul atoch chwi, yn ôl y doethineb a rodded iddo ef;
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Cross References
Exodus 31:6Ac wele, mi a roddais gyd âg ef Aholïab fab Achisamach, o lwyth Dan: ac y’nghalon pob doeth o galon y rhoddais ddoethineb i wneuthur yr hyn oll a orchymynais wrthyt.
Exodus 35:35Efe a’u llanwodd hwynt â doethineb calon, i wneuthur pob gwaith saer a chywreinwaith, a gwaith edau a nodwydd, mewn sidan glas, ac mewn porphor, ac mewn ysgarlad, ac mewn llïan main, ac i wau, gan wneuthur pob gwaith, a dychymmygu cywreinrwydd.
1 Kings 3:28A holl Israel a glywsant y farn a farnasai y brenin; a hwy a ofnasant y brenin: canys gwelsant fod doethineb Duw ynddo ef i wneuthur barn.
Ezra 7:25Tithau, Esra, yn ôl doethineb dy DDUW, yr hwn sydd yn dy law, gosod gwyddogion a barnwyr, i farnu yr holl bobl o’r tu hwnt i’r afon, y rhai oll a fedrant gyfraith dy DDUW; a dysgwch y rhai nis medrant.
Ecclesiastes 2:26Canys i’r dyn a fyddo da yn ei olwg ef, y rhydd Duw ddoethineb, a gwybodaeth, a llawenydd; ond i’r pechadur y rhydd efe boen i gasglu ac i dyrru, i’w roddi i’r neb a fyddo da gerbron Duw. Hynny hefyd sydd wagedd, a gorthrymder ysbryd.
Luke 21:15Canys myfi a roddaf i chwi enau a doethineb, yr hon nis gall eich holl wrthwynebwyr na dywedyd yn ei herbyn na’i gwrthsefyll.,.;