Llyfr Cyntaf y Brenhinoedd 13:31
Yna y brenin a gyfododd, ac a rwygodd ei ddillad, ac a orweddodd ar y ddaear; a’i holl weision oedd yn sefyll gerllaw, â’u gwisgoedd yn rhwygedig.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Read all of Llyfr Cyntaf y Brenhinoedd 13
Cross References
Genesis 37:29¶ A Reuben a ddaeth eilwaith at y pydew; ac wele nid ydoedd Joseph yn y pydew: ac yntau a rwygodd ei ddillad;
Joshua 7:6¶ A Josua a rwygodd ei ddillad, ac a syrthiodd i lawr ar ei wyneb o flaen arch yr Arglwydd, hyd yr hwyr, efe a henuriaid Israel, ac a ddodasant lwch ar eu pennau.
2 Samuel 3:31A Dafydd a ddywedodd wrth Joab, ac wrth yr holl bobl oedd gydag ef, Rhwygwch eich dillad, ac ymwregyswch mewn sachliain, a galerwch o flaen Abner. A’r brenin Dafydd oedd yn myned ar ôl yr elor.
Job 1:20Yna y cyfododd Job, ac a rwygodd ei fantell, ac a eilliodd ei ben, ac a syrthiodd i lawr, ac a addolodd;