Llyfr Cyntaf y Brenhinoedd 14:22
A Joab a syrthiodd i lawr ar ei wyneb, ac a ymgrymodd, ac a fendithiodd y brenin. A Joab a ddywedodd, Heddiw y gwybu dy was di gael ohonof ffafr yn dy olwg di, fy arglwydd frenin, am i’r brenin gyflawni dymuniad ei was.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
23A Joab a gyfododd, ac a aeth i Gesur, ac a ddug Absalom i Jerwsalem.
Read all of Llyfr Cyntaf y Brenhinoedd 14
Cross References
Exodus 33:16Canys pa fodd y gwyddir yma gael o honof fi ffafr yn dy olwg, mi a’th bobl? onid trwy fyned o honot ti gyd â ni? Felly myfi a’th bobl a ragorwn ar yr holl bobl sydd ar wyneb y ddaear.
1 Samuel 20:3A Dafydd a dyngodd eilwaith, ac a ddywedodd, Dy dad a wŷr yn hysbys i mi gael ffafr yn dy olwg di; am hynny y dywed, Na chaed Jonathan wybod hyn, rhag ei dristau ef: cyn wired a bod yr ARGLWYDD 3m fyw, a’th enaid dithau yn fyw, nid oes ond megis cam rhyngof fi ac angau. º
2 Samuel 19:39A’r holl bobl a aethant dros yr Iorddonen. Y brenin hefyd a aeth drosodd: a’r brenin a gusanodd Barsilai, ac a’i bendithiodd ef; ac efe a ddychwelodd i’w fangre ei hun. º
Job 29:11Pan y’m clywai clust, hi a’m bendithiai; a phan y’m gwelai llygad, efe a dystiolaethai gyda mi:
Proverbs 31:28Ei phlant a godant, ac a’i galwant yn ddedwydd; ei gŵr hefyd, ac a’i canmol hi: