Llyfr Cyntaf y Brenhinoedd 15:24
Ac wele Sadoc, a’r holl Lefiaid oedd gydag ef, yn dwyn arch cyfamod Duw; a hwy a osodasant i lawr arch Duw: ac Abiathar a aeth i fyny, nes darfod i’r holl bobl ddyfod allan o’r ddinas.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Read all of Llyfr Cyntaf y Brenhinoedd 15
Cross References
Numbers 4:15Pan ddarffo i Aaron ac i’w feibion orchuddio’r cyssegr, a holl ddodrefn y cyssegr, pan gychwyno y gwersyll; wedi hynny deued meibion Cohath i’w dwyn hwynt: ond na chyffyrddant â’r hyn a fyddo cyssegredig, rhag iddynt farw. Dyma faich meibion Cohath ym mhabell y cyfarfod.
Joshua 3:3Ac a orchymynasant i’r bobl, gan ddywedyd, Pan weloch chwi arch cyfammod yr Arglwydd eich Duw, a’r offeiriaid y Lefiaid yn ei dwyn hi; yna cychwynwch chwi o’ch lle, ac ewch ar ei hol hi.
Joshua 3:15A phan ddaeth y rhai oedd yn dwyn yr arch hyd yr Iorddonen, a gwlychu o draed yr offeiriaid, oedd yn dwyn yr arch, y’nghwrr y dyfroedd, (a’r Iorddonen a lanwai dros ei glannau oll holl ddyddiau y cynhauaf,)
Joshua 6:4A dyged saith o offeiriaid saith o udgyrn o gyrn hyrddod o flaen yr arch: a’r seithfed dydd yr amgylchwch y ddinas saith waith; a lleisied yr offeiriaid â’r udgyrn.
1 Samuel 4:3A phan ddaeth y bobl i’r gwersyll, henuriaid Israel a ddywedasant, Paham y trawodd yr ARGLWYDD ni heddiw o flaen y Philistiaid? Cymerwn atom o Seilo arch cyfamod yr ARGLWYDD, a deled i’n mysg ni; fel y cadwo hi ni o law ein gelynion.
1 Samuel 22:20Ond un mab i Ahimelech mab;, Ahitub, a’i enw Abiathar, a ddihangodd, ac a ffodd ar ôl Dafydd.;. ‘ º