Llyfr Cyntaf y Brenhinoedd 15:8
Canys dy was a addunedodd adduned, pan oeddwn i yn aros o fewn Gesur yn Syria, gan ddywedyd, Os gan ddychwelyd y dychwel yr Arglwydd fi i Jerwsalem, yna y gwasanaethaf yr Arglwydd.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
9A’r brenin a ddywedodd wrtho ef, Dos mewn heddwch. Felly efe a gyfododd, ac a aeth i Hebron.
Read all of Llyfr Cyntaf y Brenhinoedd 15
Cross References
Genesis 28:20Yna yr addunodd Jacob adduned, gan ddywedyd, Os Duw fydd gyd â myfi, ac a’m ceidw yn y ffordd yma, yr hon yr ydwyf yn ei cherdded, a rhoddi i mi fara i’w fwytta, a dillad i’w gwisgo,
Joshua 24:15Ac od yw ddrwg yn eich golwg wasanaethu yr Arglwydd, dewiswch i chwi heddyw pa un a wasanaethoch, ai y duwiau a wasanaethodd eich tadau, y rhai oedd o’r tu hwnt i’r afon, ai ynte duwiau yr Amoriaid, y rhai yr ydych yn trigo yn eu gwlad: ond myfi, mi a’m tylwyth a wasanaethwn yr Arglwydd.
1 Samuel 16:2A Samuel a ddywedodd. Pa fodd yr af fi? os Saul a glyw, efe a’m lladd i. A dywedodd yr ARGLWYDD, Cymer anner-fuwch gyda thi. a dywed, Deuthum i aberthu i’r ARGLWYDD. º
2 Samuel 13:38Ond Absalom a ffodd, ac a aeth i Gesur; ac yno y bu efe dair blynedd.
2 Samuel 14:32Ac Absalom a ddywedodd wrth Joab, Wele, mi a anfonais atat ti, gan ddywedyd, Tyred yma, fel y’th anfonwyf at y brenin, i ddywedyd, I ba beth y deuthum i o Gesur? gwell fuasai i mi fy mod yno eto: ac yn awr gadawer i mi weled wyneb y brenin; ac od oes gamwedd ynof, lladded fi.
Ecclesiastes 5:4Pan addunedech adduned i Dduw nac oeda ei thalu: canys nid oes ganddo flas ar rai ynfyd; y peth a addunedaist, tâl.