Llyfr Cyntaf y Brenhinoedd 16:9
Yna y dywedodd Abisai mab Serfia wrth y brenin, Paham y melltithia’r ci marw hwn fy arglwydd frenin? gad i mi fyned drosodd, atolwg, a thorri ei ben ef.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Read all of Llyfr Cyntaf y Brenhinoedd 16
Cross References
Exodus 22:28¶ Na chabla y swyddogion; ac na felldithia bennaeth dy bobl.
1 Samuel 26:6Yna y llefarodd Dafydd, ac y dywedodd wrth Ahimelech yr Hethiad, ac wrth Abisai mab Serfia, brawd Joab, gan ddywedyd, Pwy a â i waered gyda mi at Saul i’r gwersyll? A dywedodd Abisai, Myfi a af i waered gyda thi. º
2 Samuel 3:8Yna y digiodd Abner yn ddirfawr oherwydd geiriau Isboseth, ac a ddy¬wedodd, Ai pen ci ydwyf fi, yr hwn ydwyf heddiw yn erbyn Jwda yn gwneuthur trugaredd â thŷ Saul dy dad di, â’i frodyr, ac â’i gyfeillion, a heb dy roddi di yn llaw Dafydd, pan osodaist i’m herbyn fai am y wraig hon heddiw?
2 Samuel 9:8Ac efe a ymgrymodd, ac a ddywedodd, Beth ydyw dy was di, pan edrychit as gi marw o’m bath i? º
Jeremiah 40:13Johanan hefyd mab Carea, a holl dywysogion y lluoedd y rhai oedd ar hyd y wlad, a ddaethant at Gedaleia i Mispa, ‘ º
Acts 23:5A dywedodd Paul, Ni wyddwn i, frodyr, mai yr archoffeiriad oedd efe: canys ysgrifenedig yw, Na ddywed yn ddrwg am bennaeth dy bobl.