Llyfr Cyntaf y Brenhinoedd 2:1
Ac ar ôl hyn yr ymofynnodd Dafydd’â’r ARGLWYDD, gan ddywedyd, A af fi i fyny i’r un o ddinasoedd Jwda? A’r ARGLWYDD a ddywedodd wrtho ef, Dos i fyny. A dywedodd Dafydd, I ba le yr af i fyny? Dywedodd yntau, I Hebron.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Read all of Llyfr Cyntaf y Brenhinoedd 2
Cross References
Genesis 32:2A Jacob a ddywedodd, pan welodd hwynt, Dyma wersyll Duw: ac a alwodd enw y lle hwnnw Mahanaim.
Numbers 27:21A safed ger bron Eleazar yr offeiriad, yr hwn a ofyn gynghor drosto ef, yn ol barn Urim, ger bron yr Arglwydd: wrth ei air ef yr ânt allan, ac wrth ei air ef y deuant i mewn, efe a holl feibion Israel gyd âg ef, a’r holl gynnulleidfa.
Joshua 15:13¶ Ac i Caleb mab Jephunneh y rhoddodd efe ran ym mysg meibion Judah, yn ol gair yr Arglwydd wrth Josua; sef Caer-Arba, tad yr Anaciaid, honno yw Hebron.
1 Samuel 10:22Am hynny y gofynasant eto i’r ARGLWYDD, a ddeuai y gŵr yno eto. A’r ARGLWYDD a ddywedodd, Wele efe yn ymguddio ymhiith y dodrefn. º
1 Samuel 23:4Yna Dafydd eilwaith a ymgyng¬horodd a’r ARGLWYDD. A’r ARGLWYDD a’i hatebodd ef, ac a ddywedodd, Cyfod, dos xxx i waered i Ceila; canys myfi a roddaf y Philistiaid yn dy law di. º
1 Samuel 30:7A Dafydd a ddywedodd wrth Abiathar yr offeiriad) mab Ahimelech, Dwg i’ mi, atolwg, yr effod, Ac Abiathar a ddug yr effod at Dafydd. º