Llyfr Cyntaf y Brenhinoedd 23:10
Efe a gyfododd, ac a drawodd ar y Philistiaid, nes diffygio ei law ef a glynu o’i law ef wrth y cleddyf: a’r ARGLWYDD a wnaeth iachawdwriaeth mawr y diwrnod hwnnw; a’r bobl a ddychwelasant ar ei ôl ef yn unig i anrheithio. º
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Read all of Llyfr Cyntaf y Brenhinoedd 23
Cross References
Joshua 10:42Yr holl frenhinoedd hyn hefyd a’u gwledydd a ennillodd Josua ar unwaith: canys Arglwydd Dduw Israel oedd yn ymladd dros Israel.
Judges 15:14A phan ddaeth efe i Lehi, y Philistiaid a floeddiasant wrth gyfarfod ag ef. Ac ysbryd yr ARGLWYDD a ddaeth arno ef; a’r rhaffau oedd am ei freichiau a aethant fel llin a losgasid yn tân, a’r rhwymau a ddatodasant oddi am ei ddwylo ef. º
1 Samuel 11:13A Saul a ddywedodd, Ni roddir neb i farwolaeth heddiw: canys heddiw y gwnaeth yr ARGLWYDD ymwared yn Israel. º
1 Samuel 14:23Felly yr achubodd yr ARGLWYDD Israel y dydd hwnnw; a’r ymladd â aeth drosodd i Bethafen. º
1 Samuel 19:5Canys efe a osododd ei einioes yn ei law, ac a drawodd y Philistiad; a’r AR¬GLWYDD a wnaeth iachawdwnaeth mawr i holl Israel: ti a’i gwelaist, ac a lawenychaist: paham, gan hynny, y pechi yn erbyn gwaed gwirion, gan ladd Dafydd yn ddiachos? º
2 Kings 5:1A Naaman, tywysog llu brenin Syria, oedd ŵr mawr yng ngolwg ei ar¬glwydd, ac yn anrhydeddus; canys trwyddo ef y rhoddasai yr ARGLWYDD ymwared i Syria: ac yr oedd efe yn ŵr cadarn nerthol, ond yr oedd yn wahanglwyfus.