Llyfr Cyntaf y Brenhinoedd 5:3
Felly holl henuriaid Israel a ddaethant at y brenin i Hebron: a’r brenin Dafydd a wnaeth gyfamod â hwynt yn Hebron, ger bron yr ARGLWYDD: a hwy a eneiniasant Dafydd yn frenin ar Israel.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
4Mab deng mlwydd ar hugain oedd Dafydd pan ddechreuodd deyrnasu; a deugain mlynedd y teyrnasodd efe.
Read all of Llyfr Cyntaf y Brenhinoedd 5
Cross References
Judges 11:11Yna Jefftha a aeth gyda henuriaid Gilead; a’r bobl a’i gosodasant ef yn ben ac yn dywysog arnynt: a Jefftha a adroddodd ei holl eiriau gerbron yr ARGLWYDD ym Mispa. º
1 Samuel 16:13Yea y cymerth Samuel gorn yr olew, ac a’i heneiniodd ef yng nghanol ei frodyr. A daeth ysbryd yr ARGLWYDD ar Dafydd, o’r dydd hwnnw allan. Yna Samuel a gyfododd, ac a aeth i Rama. º
2 Samuel 2:4A gwŷr Jwda a ddaethant, ac a eneiniasant Dafydd yno yn frenin ar dŷ Jwda. A mynegasant i Dafydd, gan ddy¬wedyd, mai gwŷr Jabes Gilead a gladdasent Saul.
2 Samuel 3:21A dywedodd Abner wrth Dafydd, Mi a gyfodaf ac a af, ac a gasglaf holl Israel at fy arglwydd frenin, fel y gwnelont gyfamod â thi, ac y teyrnasech di ar yr hyn oll a chwennych dy galon. A Dafydd a ollyngodd Abner ymaith; ac efe a aeth mewn heddwch.
1 Chronicles 11:3A holl henuriaid Israel a ddaethant at y brenin i Hebron, a Dafydd a wnaeth gyfamod â hwynt yn Hebron, gerbron yr ARGLWYDD; a hwy a eneiniasant Dafydd yn frenin ar Israel, yn ôl gair yr AR¬GLWYDD trwy law Samuel.. º
2 Chronicles 23:16A Jehoiada a wnaeth gyfamod rhyngddo ei hun, a rhwng yr holl bobl, a rhwng y brenin, i fod yn bobl i’r AR¬GLWYDD.