The Bible Software
2 Thessalonians · Beibl (1620)

2 Thessalonians 1

1Paul, a Silfanus, a Thimotheus, at eglwys y Thesaloniaid, yn Nuw ein Tad, a'r Arglwydd Iesu Grist:

2Gras i chwi, a thangnefedd, oddi with Dduw ein Tad ni, a'r Arglwydd Iesu Grist.

3Diolch a ddylem i Dduw yn wastadol drosoch, frodyr, fel y mae yn addas, oblegid bod eich ffydd chwi yn mawr gynyddu, a chariad pob un ohonoch oll tuag at eich gilydd yn ychwanegu;

4Hyd onid ydym ni ein hunain yn gorfoleddu ynoch chwi yn eglwysi Duw, oherwydd eich amynedd chwi a'ch ffydd yn eich holl erlidiau a'r gorthrymderau yr ydych yn eu goddef:

5Yr hyn sydd argoel golau o gyfiawn farn Duw, fel y'ch cyfrifer yn deilwng i deyrnas Dduw, er mwyn yr hon yr ydych hefyd yn goddef.

6Canys cyfiawn yw gerbron Duw, dalu cystudd i'r rhai sydd yn eich cystuddio chwi,

7Ac i chwithau, y rhai a gystuddir, esmwythdra gyda ni, yn ymddangosiad yr Arglwydd Iesu o'r nef, gyda'i angylion nerthol,

8A thân fflamllyd, gan roddi dial i'r sawl nid adwaenant Dduw, ac nid ydynt yn ufuddhau i efengyl ein Harglwydd Iesu Grist:

9Y rhai a ddioddefant yn gosbedigaeth, ddinistr tragwyddol oddi gerbron yr Arglwydd, ac oddi wrth ogoniant ei gadernid ef;

10Pan ddêl efe i'w ogoneddu yn ei saint, ac i fod yn rhyfeddol yn y rhai oll sydd yn credu, (oherwydd i'n tystiolaeth ni yn eich mysg chwi gael ei chredu,) yn y dydd hwnnw.

11Am ba achos yr ydym hefyd yn gweddïo yn wastadol drosoch, ar fod i'n Duw ni eich cyfrif chwi'n deilwng o'r alwedigaeth hon, a chyflawni holl fodlonrwydd ei ddaioni, a gwaith ffydd, yn nerthol:

12Fel y gogonedder enw ein Harglwydd Iesu Grist ynoch chwi, a chwithau ynddo yntau, yn ôl gras ein Duw ni, a'r Arglwydd Iesu Grist.

← 1 Thessalonians 5Read In The App, Free →2 Thessalonians 2 →

Study 2 Thessalonians 1

KJVMatthew HenryJamieson-Fausset-BrownAdam ClarkeAlbert BarnesJohn WesleyJohn CalvinScofieldWilliam BurkittFamily Bible NotesGeneva Bible Notes (1599)Robertson's Word PicturesReina-Valera (Español)Bíblia Portuguesa MundialLuther Bibel (Deutsch)Bible Louis Segond (Français)

All Chapters

123