Ail Llythyr Paul at Timotheus 3:11
Yr erlidiau, y dioddefiadau, y rhai a ddigwyddasant i mi yn Antiochia, yn Iconium, yn Lystra, pa erlidiau a ddioddefais: eithr oddi wrthynt oll y’m gwaredodd yr Arglwydd.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
10Eithr ti a lwyr adwaenost fy nysgeidiaeth, fy muchedd, fy arfaeth, ffydd hirymaros, cariad, amynedd,
12Ie, a phawb a’r sydd yn ewyllysio byw yn dduwiol yng Nghrist Iesu, a erlidir.
Read all of Ail Llythyr Paul at Timotheus 3
Cross References
Genesis 48:16Yr angel yr hwn a’m gwaredodd oddi wrth bob drwg, a fendithio’r llangciau; fy enw hefyd, ac enw fy nhadau Abraham ac Isaac, a alwer arnynt: heigiant hefyd yn llïaws y’nghanol y wlad.
2 Samuel 22:49Ac sydd yn fy nhywys i o blith fy ngelynion: ti hefyd a’m dyrchefaist uwchlaw y rhai a gyfodent i’m herbyn, rhag y gŵr traws y’m hachubaist i. º
Psalms 34:19I waredu eu henaid rhag angau, ac i’w cadw yn fyw yn amser newyn.
Psalms 91:2Dywedaf am yr ARGLWYDD, Fy noddfa a’m hamddiffynfa ydyw: fy NUW; ynddo yr ymddiriedaf.
Isaiah 41:10Nac ofna; canys yr ydwyf fi gyda thi: na lwfrha; canys myfi yw dy DDUW: cadarnhaf di, cynorthwyaf di hefyd, a chynhaliaf di a deheulaw fy nghyfiawnder. º
Isaiah 43:2Pan elych trwy y dyfroedd, myfi a fyddaf gyda thi; a thrwy yr afonydd, fel na lifant drosot: pan rodiech trwy’r tan) ni’th losgir; ac ni ennyn y fflam arnat. º