Actau'r Apostolion 12:3
A phan welodd fod yn dda gan yr Iddewon hynny, efe a chwanegodd ddala Pedr hefyd. (A dyddiau’r bara croyw ydoedd hi.)
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
2Ac efe a laddodd Iago brawd Ioan â’r cleddyf.
Read all of Actau'r Apostolion 12
Cross References
Exodus 13:3¶ A dywedodd Moses wrth y bobl, Cofiwch y dydd hwn, ar yr hwn y daethoch allan o’r Aipht, o dŷ y caethiwed: oblegid trwy law gadarn y dug yr Arglwydd chwi oddi yno: am hynny na fwyttâer bara lefeinllyd.
Leviticus 23:6A’r pymthegfed dydd o’r mis hwnnw y bydd gwyl y bara croyw i’r Arglwydd: saith niwrnod y bwyttêwch fara croyw.
Matthew 26:17¶ Ac ar y dydd cyntaf o ŵyl y bara croyw, y disgyblion a ddaethant at yr Iesu, gan ddywedyd wrtho. Pa le y mynni i ni baratoi i ti fwyta’r pasg?
John 19:11Yr Iesu a atebodd, Ni byddai i ti ddim awdurdod arnaf fi, oni bai ei fod wedi ei roddi i ti oddi uchod: am hynny yr hwn a’m traddodes i ti, sydd fwy ei bechod.
Acts 2:14Eithr Pedr, yn sefyll gyda’r un ar ddeg, a gyfododd ei leferydd, ac a ddy¬wedodd wrthynt, O wŷr o Iddewon, a chwi oll sydd yn trigo yn Jerwsalem, bydded hysbysol hyn i chwi, a chlustymwrandewch â’m geiriau:
Acts 20:6A ninnau a fordwyasom ymaith oddi wrth Philipi, ar ôl dyddiau’r bara croyw, ac a ddaethom atynt hwy i Droas mewn pum niwrnod; lle yr arosasom saith niwrnod.