Actau'r Apostolion 13:11
Ac yn awr wele, y mae llaw yr Ar¬glwydd arnat ti, â thi a fyddi ddall heb weled yr haul dros amser. Ac yn ddiatreg y syrthiodd arno niwlen a thywyllwch; ac efe a aeth oddi amgylch gan geisio rhai i’w arwain erbyn ei law.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
12Yna y rhaglaw, pan welodd yr hyn a wnaethid, a gredodd, gan ryfeddu wrth ddysgeidiaeth yr Arglwydd.
Read all of Actau'r Apostolion 13
Cross References
Exodus 9:3Wele, llaw yr Arglwydd fydd ar dy anifeiliaid, y rhai sydd yn y maes; ar feirch, ar asynod, ar gamelod, ar y gwartheg, ac ar y defaid, y daw haint trwm iawn.
1 Samuel 5:9Ac wedi iddynt ei dwyn hi o amgylch, bu llaw yr ARGLWYDD yn erbyn y ddinas a dinistr mawr iawn: ac efe a drawodd wŷr y ddinas o fychan hyd fawr, a chlwyf y marchogion oedd yn eu dirgel leoedd.
2 Kings 6:8A brenin Syria oedd yn rhyfela yn erbyn Israel; ac efe a ymgynghorodd â’i weision, gan ddywedyd, Yn y lle a’r lle y bydd fy ngwersyllfa.
Psalms 32:4Tyn fi allan o’r rhwyd a guddiasant i mi: canys ti yw fy nerth.
Psalms 39:10Fy nghalon sydd yn llamu; fy nerth a’m gadawodd; a llewyrch fy llygaid nid yw chwaith gennyf.
John 9:39A’r Iesu a ddywedodd, I farn y deuthum i’r byd hwn, fel y gwelai’r rhai nid ydynt yn gweled, ac yr elai’r rhai sydd yn gweled yn ddeillion.